Pwysigrwydd cadw brand Cymreig wedi Brexit

27/02/2019

Categori: Bwyd, Iaith, Newyddion

Bydd defnyddio’r Gymraeg ochr yn ochr â’r Ddraig Goch yn hwb i fusnesau i werthu eu cynnyrch a’u gwasanaethau yng Nghymru a thu hwnt ar ôl Brexit, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Daw ei sylwadau wrth iddi baratoi i gynnal digwyddiad yn Llundain gyda phenaethiaid busnesau sydd â’u pencadlys tu allan i Gymru. Pwrpas y digwyddiad fydd rhannu’r achos busnes dros ddefnyddio’r Gymraeg.

 

Yn ôl Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg: “Mae’r iaith Gymraeg yn nod unigryw yng Nghymru, ac yn gynyddol, mae’n cael ei defnyddio i hyrwyddo Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. Pan oedd tîm pêl-droed Cymru yn cystadlu yn yr Ewros yn 2016, roedd yr iaith yn ganolog i ymgyrchoedd marchnata’r Gymdeithas Bêl-droed, eu noddwyr a busnesau eraill a welodd y cyfle i ddefnyddio llwyddiant y tîm i hyrwyddo’u cynnyrch.

 

“Rydym yn gweld o’n hymchwil fod cwsmeriaid yng Nghymru, yn siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg, yn gweld gwerth defnyddio’r Gymraeg. Roedd 68% yn dweud eu bod yn hoffi gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio, a 83% yn cytuno â’r gosodiad bod defnydd o’r Gymraeg yn dangos cefnogaeth i ddiwylliant Cymreig. Mae ymchwil a gynhaliodd Llywodraeth Cymru yn 2017 hefyd yn dangos bod 85% o siopwyr Cymru’n credu bod cynnyrch bwyd a diod o Gymru o ansawdd gwych.”

 

Bydd busnesau ac elusennau o bob math yn mynychu’r digwyddiad yn Llundain – o’r prif fanciau, i siopau’r stryd fawr ac elusennau mwyaf blaenllaw Prydain. Bydd y darlledwr a’r newyddiadurwr Guto Harri yn siaradwr gwadd, a phrofiadau cwmnïau fel Boots a Santander yn cydweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg yn cael eu rhannu.

 

Mantais economaidd

 

Ychwanegodd Meri Huws: “Mae ymchwil pellach gydag arweinwyr busnesau yn dangos bod defnyddio’r Gymraeg o fantais economaidd iddynt. Cytunodd 76% bod defnyddio’r Gymraeg yn denu cwsmeriaid; 82% bod defnyddio’r Gymraeg yn ychwanegu gwerth at gynnyrch neu wasanaeth a 84% bod defnyddio’r Gymraeg yn gwella brand y busnes.

 

“Os collir y brand Cymreig, a’r brand Cymraeg, wedi Brexit, fe fydd ein busnesau cynhenid ar eu colled yn aruthrol. Fy neges i felly yw os yw busnes eisiau denu a chadw cwsmeriaid ac os ydym am weld busnesau Cymru’n llwyddo ar y llwyfan rhyngwladol, yna fe ddylem wneud popeth o fewn ein gallu i’w hannog i ddatblygu brand Cymreig a Chymraeg cryf a chofiadwy a chadw’r Gymraeg yn ganolog yn eu busnes.”