Dathliadau Gŵyl Dewi Môn yn tyfu ac ehangu
Categori: Addysg, Celfyddydau, Hamdden, Iaith, Newyddion

Am y tro cyntaf erioed mae ysgolion Môn wedi dod ynghyd i drefnu saith digwyddiad Gŵyl Dewi ar draws yr ynys.
Eisoes cyn yr Hanner Tymor, cynhaliwyd Cyngerdd Cymunedol mawreddog yng Nghaergybi, ar Chwefror 21, a Gorymdaith a Chyngerdd i blant yn Amlwch, ar Chwefror 22.
Cynhelir gorymdeithiau eraill yn Llangefni, am 10yb 6/3/19, a Chaergybi, am 10yb 7/3/19. Bydd dathliad Biwmares yn cynnwys gig i’r bobl ifanc yn y Ganolfan Hamdden, ar brynhawn 12/3/19, tra bydd gig yn Ysgol Uwchradd Llangefni i ddilyn gorymdaith Llangefni.
Dywedodd Nia Thomas, sy’n arwain Menter Iaith Môn, un o bartneriaid gweithredol y dathliadau Gŵyl Dewi: “Tybiaf nad oes gan unrhyw sir arall yng Nghymru ganran mor uchel o ysgolion yn cymryd rhan mewn cymaint o ddathliadau cymunedol Gŵyl Dewi. Mae’n gyfle i ni ddangos ein diwylliant unigryw a’n cariad at y Gymraeg.
Ymroddiad
Ychwanegodd Nia Thomas, "Yn ogystal mae’r digwyddiadau a gynhaliwyd hyd yma yn dangos fod yma gyfle gwych i gael hwyl! Llongyfarchiadau mawr i ysgolion a chymunedau Môn! Mae’r ymroddiad i rannu ein diwylliant gyda’r byd yn mynd o nerth i nerth a braf gweld fod yna eisoes ymwelwyr o’r Iwerddon wedi ymroi i ymuno â Pharêd Caergybi!”