Golwg ar Gymru
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Tymor newydd Stiwdio Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
Ar ôl bod i wyliau drama ledled y wlad a chysylltu â chwmnïau syrcas a dawns blaengar mae rhaglen tymor y gwanwyn Stiwdio Weston wedi’i chadarnhau ac ar ddechrau. Mae copïau ar gael i chi eu casglu o’r Ganolfan neu lawrlwythwch yma. Dyma rai o uchafbwyntiau’r tymor.
Theatr na n’Óg – Chwedlau Aesop
6 Mawrth
Yn addas i’r rhai ifanc yn eich mysg yn ogystal â rhieni brwdfrydig, bydd cynulleidfa Stiwdio Weston y Ganolfan yn cael cwmni llygoden, llew a chrwban. Mae natur yn gallu bod yn greulon iawn - felly mae’r tri chreadur yn adrodd straeon er mwyn osgoi’r anochel. Yn ôl arfer y cwmni profiadol, Theatr na n’Óg, cewch ddisgwyl sioe llawn lliw, cerddoriaeth a chyffro, sy’n berffaith i gyflwyno’ch rhai bach i theatr fyw.
30 Mawrth
Mae’r gwaith dewr yma gan gyfarwyddwr artistig Probe, Antonia Grove, yn plymio i ddyfnderoedd themâu hunan-niweidio a chaiff ei ddehongli ar lwyfan drwy gyfrwng dawns, geiriau a cherddoriaeth. Pan mae Douglas, gweithiwr cymdeithasol braidd yn ddryslyd, yn cwrdd â’r fregus May, ni all yr un o’r ddau ragweld mai trwy wirionedd a realiti y bydd achubiaeth. Mae cryfder y stori ei hun yn berffaith i’r rheiny yn eich plith sy’n newydd i ddawns a chan ei fod yn defnyddio sawl cyfrwng, mae’n eich helpu chi ddod yn nes fyth at y darn.