Awen Media o Gaernarfon yn cyrraedd rhestr fer gwobrau BAFTA Prydain

28/03/2019

Categori: Celfyddydau, Newyddion

Mae rhaglen ddogfen gan gwmni Awen Media o Gaernarfon wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau BAFTA teledu Prydeinig.

Awen Media a sylfaenydd y cwmni, Gwion Owain, oedd cynhyrchydd Ballymurphy Massacre, a ddarlledwyd ar Channel 4 ym mis Medi.

 

Mae Ballymurphy Massacre wedi cyrraedd rhestr fer y categori Materion Cyfoes. Mae’r rhaglen yn ddinoethiad fforensig o un o erchyllterau mwyaf difrifol y trafferthion yng Ngogledd Iwerddon. Clywir, am y tro cyntaf erioed, dystiolaeth teuluoedd, llygad-dystion, patholegwyr a milwyr am yr hyn ddigwyddodd dros dridiau ym mis Awst 1971, pan laddwyd 11 o bobl gyffredin cymuned Ballymurphy gan Fyddin Prydain. Roedd y rhai a laddwyd rhwng 19 a 50 oed, yn eu mysg roedd tadau ifanc, offeiriad, mam a nain; dim un ohonynt yn arfog.

 

Cafodd fersiwn ffilm o’r ddogfen ei dangos mewn dros 50 o sinemâu ledled y DU ac Iwerddon yn ystod haf y llynedd cyn i’r rhaglen gael ei darlledu ar Channel 4 yn ystod y brif slot nos Sadwrn 8 Medi.

 

Gwirioneddau

 

Dywedodd Gwion Owain: “Pan wnes i gyfarfod y cyfarwyddwr, Callum Macrae a thrafod yr ymchwil oedd o wedi ei wneud, mi oeddwn i’n gwybod yn syth bod yna lawer mwy o wirioneddau i ddod allan, a bod hon yn stori oedd wedi ei chuddio am lawer rhy hir, a’i bod hi’n stori oedd angen ei dweud.

 

“Rydw i’n hynod o falch o rôl Awen yn sicrhau bod y stori yma’n cael ei dweud; ac o’r cyfle i gydweithio gyda’r cyfarwyddwr, y criw ac yn bennaf gyda chymuned ddewr Ballymurphy.”

 

Fe gymerodd hi dros 46 mlynedd; ond yn gynharach eleni – o’r diwedd – caniatawyd cwest i’r hyn ddigwyddodd yn Ballymurphy. Mae’r cwest yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.

 

Mae’r rhaglen ar gael i’w gwylio ar wasanaeth ffrydio Chanel 4, All 4.

 

Mae BAFTA TV yn gwobrwyo sêr a rhaglenni gorau’r sgrin fach yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Caiff y seremoni wobrwyo ei chynnal yn y Festival Hall yn Llundain ar 12 Mai a’i darlledu’n fyw ar BBC One.