Gwaith yn dechrau ar ailddatblygu'r Neuadd Sirol yng Nghaerfyrddin

17/05/2019

Categori: Arian a Busnes, Hamdden, Newyddion

Mae gwaith gwerth £1 miliwn wedi dechrau i ailddatblygu'r Neuadd Sirol yng Nghaerfyrddin.

Bydd bwyty a bar caffi newydd ar lawr gwaelod yr adeilad hanesyddol yng nghanol y dref yn agor ym mis Medi.

 

Y grŵp Loungers, sy'n berchen ar fwytai poblogaidd megis Zinco Lounge yn Abertawe a Croeso Lounge yn y Mwmbwls, sydd bellach yn gyfrifol am yr adeilad.

 

Bydd yn creu tua 30 o swyddi a bydd ymgyrch recriwtio yn dechrau yn ystod yr haf.

 

Cyngor Sir Caerfyrddin sydd biau'r adeilad rhestredig Gradd I.

 

Dywedodd James Morse, o ddatblygwyr NextColour Ltd yn Abertawe, y bydd gwaith yn cael ei wneud mewn modd sensitif i sicrhau bod hanes yr adeilad yn cael ei warchod ac y gall ciniawyr ac ymwelwyr ei fwynhau.

 

Ni fydd y llys hanesyddol ar y llawr cyntaf yn cael ei newid o gwbl, a chedwir mynediad i'r cyhoedd.

 

Bydd llawer o nodweddion gwreiddiol llawr gwaelod yr adeilad yn cael eu hadfer, gan gynnwys ei golofnau arbennig a'i lawr teils du a gwyn.

 

“Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at adfer yr adeilad gwych hwn a'i agor fel y gall mwy o bobl ei weld a'i fwynhau," meddai Mr Morse.

 

“Rydym yn gweithio'n agos gyda CADW i sicrhau bod y gwaith adnewyddu yn sensitif i hanes yr adeilad ac yn tynnu sylw at ei nodweddion gwreiddiol gorau.”

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gobeithio y bydd y gwaith ailddatblygu yn gatalydd i fuddsoddiad pellach yn y dref, gan greu cyswllt allweddol rhwng gwahanol ardaloedd manwerthu canol y dref a chefnogi'r siopau annibynnol cyfagos.

 

Bywyd newydd

 

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor: “Mae'r Neuadd Sirol yn adeilad pwysig ac eiconig yng nghanol Caerfyrddin nad oeddem am ei gweld yn sefyll yn wag.

 

“Rwyf wrth fy modd y bydd yr adeilad yn cael bywyd newydd, ac y gall bellach gael ei fwynhau gan bobl ar wahân i'r rheini sydd wedi mynd yn groes i'r gyfraith yn y gorffennol.

 

“Rydym yn croesawu'r grŵp Loungers, ac yn ei longyfarch ar ddod â'i fusnes i Gaerfyrddin a darparu swyddi i bobl leol.”