Pobl ddi-Gymraeg yn galw am enw uniaith Gymraeg i’r Senedd

31/05/2019

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae grŵp o ddysgwyr a phobl ddi-Gymraeg wedi galw ar y Llywydd Elin Jones i ollwng ei chynlluniau i roi enw Saesneg ar y Senedd mewn llythyr agored ati heddiw.

Mewn llythyr ar y cyd, dywed tua hanner cant o lofnodwyr, sy’n cynnwys cyn-Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Llafur Phil Bale, ymgeisydd y Blaid Geidwadol ym Mro Morgannwg Ross England, a chyn-gyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru Steve Brooks eu bod yn credu y byddai “gosod enw uniaith Gymraeg ar ein corff democrataidd cenedlaethol yn ffordd o ddangos bod y Gymraeg wir yn perthyn i bawb.”.  

 

Cyn y Nadolig, datganodd y Llywydd Elin Jones y byddai’r Cynulliad Cenedlaethol yn newid ei henw i un uniaith Gymraeg, sef Senedd. Gwnaed y penderfyniad yn dilyn datganiad gan Arweinydd y Blaid Lafur Mark Drakeford ei fod yn cefnogi newid yr enw i un uniaith Gymraeg.  Ond ers hynny, mae geiriad Bil sy’n newid enw’r Cynulliad wedi ei gyhoeddi ac yn cynnwys yr enw Saesneg ‘Welsh Parliament’ ar wyneb y ddeddfwriaeth, geiriad sy’n groes i addewid blaenorol y Llywydd.

 

Dywed y llythyr cyhoeddus gan y dysgwyr a’r di-Gymraeg: “Yn y cymunedau lle rydyn ni’n byw, rydyn ni’n defnyddio enwau uniaith Gymraeg drwy’r amser: enwau pentrefi a threfi ym mhob rhan o’r wlad. Ac rydyn ni’n ymfalchïo yng ngeiriau ein hanthem genedlaethol sy’n perthyn i bawb, ac yn cynnwys pawb, nid siaradwyr Cymraeg yn unig. Mae’r pethau yma’n golygu llawer i ni, ac yn agos at ein calonnau, gan eu bod yn iaith unigryw Cymru. Nid yw’n deg dweud nad ydyn ni’n deall enwau uniaith Gymraeg. Mae gyda ni’r hawl i fwynhau pethau unigryw Gymraeg yn gymaint â phawb arall - does gan neb hawl i ddweud nad ydyn nhw’n perthyn i ni hefyd.

 

“Pryderwn fod sawl un o’r dadleuon yn erbyn enw uniaith Gymraeg yn nawddoglyd tuag at nifer fawr o bobl yng Nghymru sy’n cefnogi’r iaith, ond yn methu ei siarad. ... Mae llawer yn cyfeirio at y sefydliad fel 'Senedd' eisoes. Drwy osod enw Saesneg ar y Senedd, fel rydych chi’n bwriadu ei wneud, fe fyddwch chi, yn anochel, yn normaleiddio’r enw hwnnw ac yn tanseilio defnydd o’r enw Cymraeg.

 

“... Ac os gallwn ni i gyd ddweud ‘Dáil’ neu ‘Bundestag’ heb yr angen am ddisgrifiad swyddogol Saesneg - pam na allwn ni wneud yr un peth gyda ‘Senedd’?

 

“Galwn arnoch chi i ddangos hyder yn iaith unigryw Cymru a hyder yn holl bobl Cymru - boed yn siaradwyr Cymraeg ai peidio - drwy roi enw uniaith Gymraeg ar ein Senedd, enw Cymraeg fydd yn perthyn i bawb.”

 

Cefnogaeth drawsbleidiol

 

Wrth groesawu’r llythyr, ychwanegodd Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “O siarad â llawer iawn o bobl ar faes yr Eisteddfod yr wythnos yma, mae’n amlwg i ni bod y mwyafrif llethol yn cefnogi’r ymgyrch. Ac mae’r llythyr yn dangos cymaint o gefnogaeth drawsbleidiol sydd hefyd. Mae’n hen bryd i’r Llywydd wrando ar y lleisiau yma. Wedi’r cwbl, mae mabwysiadu enw a brand uniaith Gymraeg yn gyfle i atgyfnerthu’r syniad bod y Gymraeg yn gallu cynnwys pawb, o bob cefndir. Mae’n gyfle i ddatgan y gallwn ni fod yn Gymru unedig mewn un iaith, waeth beth yw ein cefndir neu’n hiaith gyntaf.”

 

Mi fydd yr Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, Gwion Rhisiart, yn siarad ar risiau’r Senedd heddiw am 2pm gan ddatgan ei gefnogaeth i’r ymgyrch dros enw uniaith Gymraeg i’r sefydliad.