Mudiad iaith yn beirniadu Cyngor Castell-Nedd Port Talbot

18/06/2019

Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi beirniadu'n chwyrn gynigion gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot i gynyddu ffïoedd cludiant i ddisgyblion yn y sir.

Mae'r Cyngor wrthi'n ymgynghori ar hyn o bryd i gynyddu'r gost i £390 y flwyddyn ar gyfer disgyblion ôl 16 (£100 ar hyn o bryd) yn ogystal â thynnu gwarant am sedd o Fedi 2020 ymlaen.

 

Nôl yn 2013, cynhaliodd Cwmni Hafan, ar y cyd â RhAG, arolwg ymysg rhieni i fesur effaith cyflwyno'r ffïoedd presennol. Roedd y prif gasgliadau, sy'n dal i fod yn berthnasol, yn nodi'r canlynol: 

  • Byddai codi ffïoedd am gludo disgyblion 16+ i Ysgol Gyfun Ystalyfera’n debygol o ddod ag addysg 16+ hyfyw yno i ben; Byddai codi tâl am gludiant yn effeithio’n anghymesur ar rai sy’n derbyn addysg Gymraeg ôl 16 yn y sir;
  • Mae codi tâl am gludiant ysgol yn mynd i gosbi’r llai cefnog yn fwy na neb, a pheri na fydd disgyblion o gefndiroedd tlotach yn gallu parhau ag addysg Gymraeg;
  • Gan fod addysg Saesneg 16+ yn o fewn cyrraedd llawer haws i’r rhan fwyaf o’r disgyblion, mae codi tâl i fynd i addysg Gymraeg yn gosod addysg Gymraeg o dan anfantais amlwg. 

  

Sefyllfa anghrediniol

 

Dywedodd Wyn Williams, Cadeirydd Cenedlethol RhAG, "Mae'n sefyllfa sy'n gwbl anghrediniol. Dyma sir sydd wedi buddsoddi £40miliwn yn ddiweddar i ehangu a gwella darpariaeth addysg Gymraeg, ond sydd wedyn yn mynd ati i danseilio hynny gyda'r cynnig dan sylw. Does dim dwywaith y byddai gweithredu'r polisi hwn yn ergyd farwol i'r 6ed dosbarth yn Ysgol Gyfun Ystalyfera ac addysg Gymraeg yn gyffredinol yng Nghastell-nedd Port Talbot.

 

 

"Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i drefnu cludiant i ysgolion gyda’r nod o hybu addysg Gymraeg.  Byddai’r cynnig a drafodir yn awr yn cael effaith i’r gwrthwyneb, ac yn andwyol iawn i addysg Gymraeg. Mae'n amlwg nad yw'r sir wedi cynnal asesiad ystyrlon i fesur effaith y polisi hwn ar ddisgyblion a theuluoedd o safbwynt y Gymraeg nac o safbwynt cydraddoldeb.

 

Ysgogi’r galw

 

"Ymhellach at hynny, mae disgwyl i bob sir yn awr i fynd ati i ysgogi'r galw am addysg Gymraeg. Mae'r Llywodraeth yn ymgynghori ar hyn o bryd i newid y rheoliadau a fyddai'n cael gwared ar fesur y galw ac yn symud at drefn o osod targedau twf. Mae'r cynnig hwn yn milwrio yn erbyn hyn oll.

 

"Gwyddom bod siroedd eraill, gan gynnwys Casnewydd a Mynwy, sy'n codi tâl afresymol am gludiant i addysg Gymraeg. Ac mae nifer cynyddol o awdurdodau lleol yn adolygu eu polisïau cludiant gyda golwg i godi ffïoedd sy'n rhwym o osod rhwystrau i addysg Gymraeg. Felly, rydym yn galw ar Kirsty Williams a Llywodraeth Cymru i ymyrryd ar fyrder trwy gynnal adolygiad o'r holl Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg - a chymryd camau priodol -  i sicrhau bod addysg Gymraeg yn cael ei hybu trwy bolisïau cludiant, yn unol â gofynion Mesur 2008."