Lansio deiseb dros ysgol Gymraeg ym Mhlasdwr yng Nghaerdydd

24/06/2019

Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Cafodd deiseb ei lansio yng ngŵyl Tafwyl dros y penwythnos yn galw ar i Gyngor Caerdydd wneud yr ysgol gyntaf sy’n rhan o ddatblygiad tai newydd yng ngogledd-orllewin y ddinas yn un cyfrwng Cymraeg yn hytrach na dwyieithog.

Ym mis Ebrill eleni, ac yn groes i addewid Arweinydd Cyngor Caerdydd i agor ysgol benodedig Gymraeg fel rhan o’r datblygiad tai enfawr, cytunodd cabinet y cyngor i ymgynghori ar gynnig i agor ffrwd Saesneg o fewn yr ysgol gyntaf.

 

Mae datblygiad Plasdŵr yng ngogledd-orllewin y ddinas yn golygu adeiladu hyd at saith mil o dai dros y saith mlynedd nesaf. Yn yr ardaloedd hyn - Creigiau, Sain Fagan a Phentyrch - y mae rhai o’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y brifddinas, gyda bron i chwarter y boblogaeth yn siarad Cymraeg.

 

Mewn trydariad ym mis Medi'r llynedd, dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas “i fod yn glir - bydd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o ddatblygiad Plasdŵr.” Fodd bynnag, ddiwedd yr wythnos diwethaf, penderfynodd cabinet Cyngor Caerdydd i ddechrau ymgynghori ar gynnig i sefydlu ysgol gynradd ddwyieithog newydd fyddai’n cynnwys ffrwd Saesneg.

 

Dywedodd Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith: “Rydyn ni’n cychwyn y ddeiseb er mwyn sicrhau bod Arweinydd y Cyngor yn cadw at ei air i agor ysgol cyfrwng Cymraeg, nid ysgol ddwyieithog. Roedden ni ar ddeall y byddai’r ysgol gyntaf yn un cyfrwng Cymraeg. Beth sydd wedi digwydd? Ydy’r Arweinydd wedi gwneud tro pedol er mwyn plesio’r rhai gwrth-Gymraeg o fewn y cabinet? Wrth ddathlu 70 mlynedd o addysg cyfrwng Cymraeg yn y brifddinas, dylai fod yn cadw at addewid er lles bywydau’r genhedlaeth nesaf.”

 

“Ysgol benodedig Gymraeg sydd ei hangen os yw’r Cyngor o ddifrif am sicrhau ein bod ni’n cyrraedd miliwn o siaradwyr. Mae'n rhaid i Gaerdydd sicrhau cynnydd dramatig a chyflym yn nifer y disgyblion sy'n mynd i ysgol Gymraeg er mwyn sicrhau y caiff y targed ei gyrraedd.

 

Cyfle euraidd

 

“Mae agor ysgol newydd sbon ar gyfer y datblygiad tai yma yn cynnig cyfle euraidd i gynyddu’n gyflym y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Drwy beidio defnyddio’r cyfalaf sy’n dod gyda’r datblygiad tai anferth yma i agor ysgol cyfrwng Cymraeg benodedig, mae’r cyngor yn rhwystro twf y Gymraeg yn yr ardal a dyheadau’r rhan helaeth o bobl yr ardal i adfer y Gymraeg a gweld ein pobl ifanc yn dod yn rhugl yn yr iaith. Ar hyn o bryd, yn ôl ystadegau’r cyngor, mae mwy o blant oedran derbyn sydd eisiau lle mewn ysgol cyfrwng Cymraeg nag sydd o le iddyn nhw, ond mae llefydd dros ben mewn ysgolion Saesneg, beth yw’r synnwyr agor ffrwd Saesneg felly?”