Cyfrol newydd yn trafod yr Anymwybod Cymreig

26/06/2019

Categori: Addysg, Llenyddiaeth, Newyddion

Mae’r hanesydd Llion Wigley wedi cyhoeddi cyfrol gan Wasg y Brifysgol yn mynd i wraidd y diwylliant deallusol o fewn y Gymru Gymraeg ynghanol yr ugeinfed ganrif.

Yr Anymwybod Cymreig Freud, Dirfodaeth a’r Seice Cenedlaethol yw teitl y gyfrol sy’n mynd i’r ‘rafael a’r ymateb Cymreig i syniadau yr athronydd Sigmund Freud. 

 

Rhwng 1920 a 1970, datblygodd diwylliant deallusol heriol a modern o fewn y Gymru Gymraeg, a chyflwynwyd syniadau newydd fel seicdreiddiad a dirfodaeth i’r diwylliant gan amrywiaeth o ddeallusion a llenorion disglair.

 

Nod y gyfrol arloesol hon yw dangos sut y datblygwyd y diwylliant newydd yma, beth oedd ei arwyddocâd, a pha wersi y gallwn eu dysgu o’r hyn a gyflawnwyd. 

 

Trwy roi cipolwg ar gyfoeth hanes syniadau yng Nghymru dros hanner canrif gynhyrfus rhwng diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a marwolaeth yr athronydd disglair J. R. Jones ym 1970, dadansoddir sut yr ymatebodd awduron Cymraeg i syniadau Freud, Jung, Sartre, de Beauvoir ac eraill, gan lleoli hanes deallusol y Gymru Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol eang hefyd. 

 

Ymdriniaeth fanwl gyntaf 

 

Y llyfr hwn fydd yr ymdriniaeth fanwl gyntaf o’r ymateb Cymraeg i syniadau Sigmund Freud a seicdreiddiad yn gyffredinol rhwng 1920 a 1970, a hefyd yr ymdriniaeth benodol gyntaf o’r ymateb i ddirfodaeth yng Nghymru. At hyn, mae’r llyfr hefyd yn agor trafodaethau newydd ym maes llenyddiaeth, gan roi sylw manwl i waith awduron pwysig Cymraeg o hanner gyntaf yr ugeinfed ganrif sydd wedi cael eu hesgeuluso neu eu hanghofio yn gyffredinol – megis Elena Puw Morgan, Gwilym O. Roberts a Harri Williams. Astudiaeth bwysig, a chyfoes yw hon sy’n trafod arwyddocâd gwaith y cyfnod mewn modd heriol a pholemig. 

 

Y brif farchnad yw darllenwyr Cymraeg sydd â diddordeb mewn syniadau, diwylliant a hanes, ac yn fwyaf penodol hanes Cymru yn yr ugeinfed ganrif. O ystyried ei natur ryngddisgyblaethol eang, bydd y gyfrol yn apelio at farchnad academaidd o haneswyr a myfyrwyr sydd â diddordeb arbenigol yn y cyfnod dan sylw, yn ogystal â darllenwyr mwy cyffredinol. Mae Llion Wigley yn hanesydd sydd wedi cyhoeddi ysgrifau ac erthyglau yn Y Traethodydd, Cylchgrawn Hanes Cymru, Llafur, Ysgrifau Beirniadol ac O’r Pedwar Gwynt.