Y Gyfraith yn ein llên yn destun cyfrol newydd

28/06/2019

Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Llenyddiaeth, Newyddion

Ar hyd y canrifoedd bu’r gyfraith yn ysgogi, ysbrydoli a chynddeiriogi beirdd a llenorion ac mae cyfrol newydd Y Gyfraith yn ein Llên gan yr academydd R. Gwynedd Parry yn mynd ati i adrodd hanes yr ymateb llenyddol i’r Gyfraith.

Mae’n astudiaeth banoramig a thematig sydd yn adrodd yr ymateb llenyddol – o’r Oesoedd Canol hyd at yr 21ain ganrif – i syniadau, swyddogion a sefydliadau’r gyfraith. 

 

Yn y gyfrol, cawn foli a marwnadu, diolch a dychanu, chwerthin a chrio, a’r cyfan yn tystio i bwysigrwydd y gyfraith mewn cymdeithas ac i swyddogaeth llên fel cyfrwng i fynegi barn ar gyfiawnder. Gan fabwysiadu strwythur cronolegol yn bennaf, rhoddir dadansoddiad o’r ymateb llenyddol i gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru mewn cyfnodau penodol yn ei hanes. 

 

O Daliesin Ben Beirdd hyd at ein dyddiau ni, amlygir y traddodiad llenyddol a’i gynnyrch fel ffynonellau sydd yn dyfnhau ein dealltwriaeth o’r gyfraith a’i dylanwad mewn cymdeithas – a chymdeithas yng Nghymru yn benodol. Mae’r astudiaeth arloesol hon yn agor drws ar ddadansoddiadau llenyddol, barddol a hanesyddol ym myd cyfriethiol gan ddangos pwysigrwydd gwerthfawrogi llenyddiaeth fel cyfrwng i draethu syniadau neu i ymateb i ffenomenau cyfreithiol. 

 

Torri tir newydd

 

Dyma’r tro cyntaf i astudiaeth gynhwysfawr o’r maes ymddangos, ac y mae’n torri tir newydd mewn hanesyddiaeth gyfreithiol Gymreig yn ogystal â gwneud cyfraniad pwysig i hanesyddiaeth lenyddol. Bydd y gyfrol hon o ddiddordeb i fyfyrwyr, darlithwyr, academyddion a chyfriethwyr sydd am ehangu eu dealltwriaeth o’r meysydd llenyddol a chyfreithiol y tu hwnt i’r dadansoddiadau arferol gan archwilio hanes, dylanwad a delweddau’r gyfraith mewn goleuni newydd. 

 

Mae R. Gwynedd Parry yn academydd ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn fargyfreithiwr. Yn 2010 cafodd ei ethol yn Gymrawd i’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, ac yn Gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2018.