Perfformiad gwasanaethau digidol S4C yn argoeli'n dda at y dyfodol, yn ôl cadeirydd y Sianel

17/07/2019

Categori: Bwyd, Celfyddydau, Hamdden, Newyddion

Mewn blwyddyn pan wnaeth mwy na 10 miliwn o bobl wylio S4C drwy wledydd Prydain ar ryw adeg mewn cyfnod o 12 mis, dywed Cadeirydd S4C yn ei adroddiad blynyddol olaf yn y swydd, bod perfformiad gwasanaethau digidol S4C yn argoeli’n dda am y dyfodol.

Wrth gyflwyno Adroddiad Blynyddol 2018/ 2019, dywedodd Huw Jones bod gwylio ar-lein yn parhau i dyfu’n sylweddol, gyda 46.9 miliwn o sesiynau gwylio ar-lein i holl raglenni a chynnwys S4C ar S4C Clic, BBC iPlayer a chyfryngau cymdeithasol.

 

Dywedodd Huw Jones, sy’n gadael ei swydd yn yr hydref ar ôl wyth mlynedd wrth y llyw, “Gwelwyd cynnydd yn y defnydd mae gwylwyr yn ei wneud o lwyfannau digidol er mwyn gwylio cynnwys, gyda dros 8.6 miliwn o sesiynau gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer, a chynnydd mawr yn lefel y gwylio trwy gyfryngau cymdeithasol fel Facebook. Lansiwyd bocs sets ar Clic am y tro cyntaf gydag effaith drawiadol, yn arbennig ar gyfer gwylio drama. Llwyddiant mawr arall yn ystod y flwyddyn oedd y gwasanaeth digidol newydd S4C ar gyfer pobl oed 16-34, Hansh. Gydag adnoddau cyfyngedig, mae’r llwyfan yma wedi cydio yn nychymyg cynulleidfa iau.”

 

Wrth nodi bod 38.2 miliwn o sesiynau gwylio ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn, dywed Prif Weithredwr S4C, Owen Evans, bod perfformiad S4C yn profi bod y Sianel yn iawn i weithredu polisi o fuddsoddi’n drwm mewn gwasanaethau digidol.

 

Meddai Owen Evans, “Rwy’n falch o weld, wrth i ni ymladd i gadw ein cynulleidfa liniol, bod ein gwasanaethau digidol wedi parhau i dyfu ac esblygu. Mae’r ffaith fod S4C wedi cynnal lefel cyrhaeddiad yn y gynulleidfa iau (16-34) ar yr un lefelau dros y flwyddyn, yn wahanol i gyfartaledd y pum prif sianel darlledwr cyhoeddus arall yng Nghymru, yn arwyddocaol ac yn argoeli’n dda at y dyfodol.”

 

“Ond efallai’r un mwyaf arwyddocaol i’r dyfodol oedd parhau ein harbrofi digidol ac ein comisiynu ar y brif sianel er mwyn creu strategaeth hir dymor fydd yn troi S4C o fod yn ddarlledwr lliniol i fod yn gyflenwr aml-blatfform. Wrth wneud hyn rydym yn ymateb i batrymau gwylio sy’n newid o’n cwmpas a hefyd yn meithrin partneriaethau newydd a chyffrous, gan sicrhau fod isadeiledd cryf gan y sianel i’r dyfodol.”

 

Roedd y ffigurau gwylio ar gyfer y flwyddyn flaenorol, 2017-2018, wedi mynd yn groes i’r patrwm cyffredinol wrth i gyrhaeddiad S4C gynyddu yng Nghymru a'r DU, felly roedd disgwyl gostyngiad y tro hwn yn nifer y gwylwyr yn gwylio S4C ar y teledu. Fe wnaeth 665,000 o bobl wylio S4C ar deledu bob wythnos drwy’r DU yn ystod 2018/2019, gostyngiad mewn gwylio wythnosol ar draws y DU o 4%, cwymp digon tebyg i sianeli cyhoeddus eraill ond yn dal yn dangos cynnydd sylweddol o’i gymharu â’r flwyddyn 2016-17.

 

Uchafbwyntiau

 

Roedd nifer fawr o uchafbwyntiau ar y sgrin, gyda chyfresi drama fel 35 Awr, Byw Celwydd ac Enid a Lucy yn llwyddiannau amlwg. Ymysg y cynyrchiadau eraill wnaeth ddal dychymyg gwylwyr oedd darllediadau chwaraeon byw fel buddugoliaeth arwrol Geraint Thomas yn y Tour de France, cyfresi arloesol fel y sioe Gwesty Aduniad, lansio’r gyfres ddogfen DRYCH, rhaglenni newydd y gwasanaeth materion cyfoes, cystadleuaeth Junior Eurovision Song Contest 2018 a dathliadau pen-blwydd Cyw yn ddeg oed. Enillodd nifer o raglenni wobrau, gyda’r gyfres Prosiect Z o wasanaeth Stwnsh yn amlwg yn eu plith. Hefyd gwelwyd nifer o gyfresi drama a gomisiynwyd gan S4C yn ymddangos ar sianeli rhwydwaith a thramor.

 

Dywedodd Huw Jones fod y 12 mis diwethaf wedi gosod y sylfeini ar gyfer y degawdau nesaf gyda phencadlys gweinyddol y sianel yn symud i Gaerfyrddin o Gaerdydd, i Ganolfan S4C Yr Egin ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a'r gwasanaeth technegol yn paratoi i gydleoli gyda BBC Cymru yn ei bencadlys newydd yn Sgwâr Canolog Caerdydd. Dechreuodd S4C hefyd roi ar waith rhai o argymhellion yr Arolwg annibynnol a wnaed, o safbwynt ei strwythur a'i llywodraethiant*.

 

Talu teyrnged

 

Mae Huw Jones, a benodwyd yn Gadeirydd S4C ar adeg o her ariannol fawr a thwf aruthrol yn y gystadleuaeth yn 2011, yn talu teyrnged i’r diwydiant cyfryngau yng Nghymru am wneud S4C yn llwyfan deinamig i'r Gymraeg.

 

“Hoffwn ddiolch i’r cwmnïau a’r sefydliadau cynhyrchu a’r unigolion talentog sy’n gweithio iddynt, o flaen a thu ôl i’r sgrin, am sicrhau rhaglenni sy’n cystadlu gyda’r goreuon, yn rhoi llwyfan cyfoes cyhoeddus teilwng i’r iaith Gymraeg, ac yn cyfiawnhau’n llawn yr ymdrechion a’r penderfyniadau a arweiniodd at sefydlu’r sianel yn y lle cyntaf, yn ôl yn 1982.”

 

Ychwanegodd, “Mae S4C yn rhan ganolog o’r gwaith o sicrhau dyfodol i hen hen iaith, sydd yn iaith gyntaf i leiafrif, ond yn destun balchder i genedl gyfan.”