Gareth Evans-Jones yn cipio'r Fedal Ddrama

Gareth Evans-Jones, o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn, sy’n cipio Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy eleni.

Derbyniodd ei wobr ar lwyfan y Pafiliwn heddiw mewn seremoni arbennig.  Cyflwynir y Fedal Ddrama am ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.  Gwobrwyir y ddrama sy’n dangos yr addewid mwyaf ac sydd â photensial i’w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol. 

 

Mae Gareth yn derbyn Y Fedal Ddrama (er cof am Urien Wiliam, rhoddedig gan ei briod Eiryth a’r plant, Hywel, Sioned a Steffan) a £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli).  Cyflwynir rhan o’r gwaith buddugol yn Seremoni’r Fedal Ddrama gyda chefnogaeth Cronfa Goffa JO Roberts. 

 

Y beirniaid eleni oedd Gethin Evans, Branwen Cennard a Bethan Marlow, ac wrth gychwyn traddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan, roedd gan Bethan Marlow air o gyngor i unrhyw un sy’n ystyried cystadlu yn y dyfodol.  Meddai, “Mae digon o bobol yn medru dweud “mae gen i syniad am ddrama dda” neu “un diwrnod dwi am sgwennu clamp o stori” ond ychydig iawn ohonon ni sy’n mynd ati i roi pensil at bapur.

 

“Daeth 11 o sgriptiau i law eleni ac mae’r ffaith bod cynifer wedi ymgeisio am y Fedal Ddrama yn galonogol iawn. Ond yn anffodus, cyffredin oedd y safon, gyda nifer o’r cystadleuwyr yn dangos diffyg dealltwriaeth sylfaenol o ddatblygu stori a chreu cymeriadau diddorol a chrwn.

 

“Cyn anfon unrhyw sgript at gystadleuaeth mi faswn yn annog i chi ddarllen hi a’i hail-ddarllen hi a gofyn, “ydi hi’n barod?” Ac os nad ydi hi, mae hynny’n ocê, mae ysgrifennu drama yn cymryd amser. “Dyfal donc a dyr y garreg” medda rhywun lot callach na fi…

 

Ar ôl trafod y ceisiadau eraill yn y gystadleuaeth, trodd ar y dosbarth cyntaf a dweud, “Un ddrama sydd wedi cyrraedd y dosbarth cyntaf eleni, sef Adar Papur gan Gwylan.

 

Heb amheuaeth mae gan Gwylan ymwybyddiaeth o ofynion drama ac o anghenion y cyfrwng.  Mae’r ddrama’n agor yn hynod effeithiol gan hawlio sylw o’r cychwyn un a hynny drwy ddibynnu ar y gweledol yn hytrach na’r gair. Does dim dwywaith nad oes gan Gwylan glust at ddeialog, rhythm a iaith. Mae yma hiwmor a chlyfrwch dweud ac mae adeiladwaith y stori’n grefftus ac yn mynnu sylw o’r dechrau hyd y diwedd.

 

Mae’r ddrama’n llifo, a chymeriad Sara mor gredadwy ac agos atoch nes ei bod hi’n amhosib peidio â chydymdeimlo gyda hi na’i sefyllfa. Mae ôl gofal a meddwl amlwg yn y broses o greu ac ysgrifennu cymeriad Iwan ac er ei fod yn byw i raddau helaeth yn ei fyd bach ei hun, mae’n amhosib peidio ag uniaethu a malio amdano.

 

Yn ddi-os mae yma sylfaen gadarn i ddatblygu arni ac felly mae’r tri ohonom yn gytûn bod Gwylan yn haeddu’r fedal.

 

Gwneud enw

 

Dyma’r tro cyntaf i Gareth Evans-Jones ennill un o brif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol, ond mae’n prysur wneud enw i’w hun ym mynd y ddrama a llenyddiaeth ar draws Cymru.  Mae’i lwyddiannau’n cynnwys Medal Ddrama’r Eisteddfod Ryng-golegol 2012, Medal ‘Y Ddrama Orau yn yr iaith Gymraeg’ gan Gymdeithas Ddrama Cymru yn 2010 a 2012, Coron Eisteddfod Môn Paradwys a’r Fro 2016, a Medal Ryddiaith Eisteddfod Môn Gŵyl y Ffermwyr Ifanc 2019. Y llynedd, cyhoeddodd ei nofel gyntaf,Eira Llwyd (Gwasg y Bwthyn, 2018), ac mae wrthi’n cwblhau ei ail nofel.

 

Graddiodd â gradd gyd-anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol o Brifysgol Bangor yn 2012, ac wedi hynny, dilynodd gwrs MA Ysgrifennu Creadigol ym Mangor dan gyfarwyddyd Angharad Price. Aeth yn ei flaen wedyn i gwblhau doethuriaeth a oedd yn archwilio ymatebion crefyddol gwasg gyfnodol Gymraeg America i fater caethwasiaeth yn ystod y cyfnod 1838-1868. Bellach, mae’n ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd yn Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor.

 

Yn ystod ei arddegau, bu’n aelod o griw Brain, Cwmni’r Frân, roedd ymysg y criw cyntaf i ddilyn cynllun ‘O Sgript i Lwyfan’ y Frân Wen, a thros y blynyddoedd, mae wedi sgriptio dramâu ac ymgomiau ar gyfer Theatr Fach Llangefni. Bu hefyd yn un o Awduron wrth eu Gwaith, Gŵyl y Gelli yn ystod y cyfnod 2018-2019.

 

Hoffai ddiolch o waelod calon i’w gyn-athrawon a darlithwyr, ei gyfeillion, a’i deulu am bob cefnogaeth ac anogaeth dros y blynyddoedd.