Cymry blaenllaw yn sefydlu cyngor cyfathrebu newydd i Gymru

Mae nifer o Gymry blaenllaw, gan gynnwys y darlledydd Angharad Mair a’r cyn-gynhyrchydd gydag ITV Eifion Glyn, wedi ffurfio’r Cyngor Cyfathrebu cyntaf yn hanes y wlad.

Daeth y cyhoeddiad ar faes yr Eisteddfod brynhawn ddoe. Y corff hwn fydd yn rheoleiddio’r maes darlledu pan ddaw y pwerau hynny i Gymru.

 

Aelodau’r corff cysgodol newydd fydd y darlledydd Angharad Mair; y cynhyrchydd teledu Nia Ceidiog; cyn-uwch gynhyrchydd gydag ITV Cymru Eifion Glyn; y cyfarwyddwr a’r cynhyrchydd Euros Lewis; Alun Jones Williams o’r band Bwncath, y gohebydd Marc Webber; y cerddor o Sir Gaerfyrddin, y rheolwr cynnwys digidol Owain Gwilym; a Chyfarwyddwr Digidol Cwmni Da Phil Stead.

 

Diwrnod hanesyddol

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol: “Mae’n ddiwrnod hanesyddol yn y broses o ddatganoli pwerau darlledu i Gymru. Mae safon aelodau cyntaf y Cyngor hwn yn arbennig ac yn dangos dyfnder y dalent, y brwdfrydedd a’r profiad y gallwn ni fanteisio arno yng Nghymru. Bydd y bobl hyn yn fwy na pharod ac abl i reoleiddio darlledu a chyfathrebu. Mae’r cyhoedd eisiau gweld penderfyniadau dros ddarlledu yng Nghymru yn cael eu gwneud gan bobl Cymru, felly dyma a fydd.