Dyma wythnos Eisteddfod Conwy 2019: Cymru, Lloegr a Llanrwst
Categori: Addysg, Amgylchedd, Ar-lein, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Hamdden, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion

Dyma oedd wythnos Eisteddfod Conwy 2019. Er gwaetha’r glaw diwedd yr wythnos, bu’n Eisteddfod hynod lwyddiannus, gyda llawer o uchafbwyntiau yn dod i’r cof.
Yr oedd yn Eisteddfod fythgofiadwy i Guto Dafydd wrth iddo gipio’r dwbwl, sef y Goron a Gwobr Daniel Owen. Yna, daeth y bardd nodedig Jim Parc Nest neu T James Jones i’r brig gyda’r Gadair am yr eildro.
Y me’r Genedlaethol bellach yn Wyl fawreddog yng ngwir ystyr y gair i ddathlu a llwyfannu llawer o’n Cymreictod, o’r diwylliant ieuenctid i bob agwedd o’n bywyd cenedlaethol. O’r Pentref Gwyddoniaeth i’r Babell Lên, dyma’r Gymraeg ar ei mwyaf hyderus yn trafod pob pwnc o bwys yn yr Unfed Ganrif ar hugain. Bydded hynny i barhau.
Edrych yn ôl ac edrych ymlaen
Mae Lleol.cymru wedi dethol rhai o uchafbwyntiau’r wythnos. Mae’n amser i edrych yn ôl ar wythnos Cymru, Lloegr a Llanrwst ac ymlacio gan edrych ymlaen at Dregaron yn 2020. Mwynhewch.