Darganfod eicon o Wlad yr Iâ yn Ysgol Gelf Aberystwyth

18/11/2019

Categori: Celfyddydau, Llenyddiaeth, Newyddion

Cafodd paentiad sy'n cael ei ystyried yn eicon cenedlaethol’ yn Ngwlad yr Iâ ei ddarganfod yn Ysgol Gelf Aberystwyth.

Mae gan Brydain ei Britannia, yr Eidal Italia, a’r Almaen Germania, ac felly hefyd mae gan Wlad yr Iâ Fjallkona – Menyw’r Mynydd.

 

Ond prin yw’r rhai sy’n gwybod mai noddwr o Gymru a gomisiynodd artist o’r Almaen i greu’r personoliad benywaidd cyntaf o Wlad yr Iâ.

 

Gadawyd y darlun i Brifysgol Aberystwyth yn 1882 ac mae bellach yn Amgueddfa’r Ysgol Gelf.
A bu cyffro mawr yr wythnos hon wrth i Gudmundur Oddur Magnússon, Athro Ymchwil ym Mhrifysgol Celfyddydau Gwlad yr Iâ, a’r artist Unnar Örn, gyrraedd Aberystwyth er mwyn gweld y paentiad gwreiddiol o ddelwedd sy’n bellach yn rhan annatod o ddiwylliant Gwlad yr Iâ.

 

Mae Gudmundur yn credu mai nhw yw’r bobl gyntaf o Wlad yr Iâ i weld y gwaith celf ers iddo gael ei baentio yng nghanol y 1860au cyn iddo gael ei gyhoeddi fel engrafiad pren yn 1866.
Er i’r engrafiad du a gwyn gael ei gopïo a’i ailddehongli ar ôl hynny dros gyfnod o ryw 160 mlynedd, roedd bodolaeth y paentiad gwreiddiol – sydd mewn lliw – wedi mynd yn angof tu hwnt i Aberystwyth tan nawr.
Mae delwedd Menyw’r Mynydd, a gafodd ei phaentio gan yr arlunydd Johann Baptist Zwecker (1814-1876) a anwyd yn yr Almaen ac a fu’n byw yn Llundain, bellach yn eicon cenedlaethol.

 

Diwrnod cenedlaethol



Mae Menyw'r Mynydd wedi ymddangos ar stampiau, crysau-T a chasys ffonau symudol. Bob blwyddyn ar 17 Mehefin, Diwrnod Cenedlaethol Gwlad yr Iâ, mae’n draddodiad i fenywod Gwlad yr Iâ wisgo fel Fjallkona Zwecker.

 

Comisiynwyd darlun gwreiddiol Menyw’r Mynydd gan George E. J. Powell (1842-1882), etifedd Ystâd Nanteos, sydd dair milltir i’r de o Aberystwyth.

 

Y bardd o America, Henry Wadsworth Longfellow a awgrymodd y dylai Powell gysylltu ag Eiríkur Magnússon, ysgolor o Brifysgol Caergrawnt. Roedd yn rhannu diddordeb Powell mewn sagâu o Wlad yr Iâ. Bu Magnússon yn addysgu Hen Norwyeg i’r artist-gynllunydd Celf a Chrefft William Morris a ddilynodd ôl troed Powell i Wlad yr Iâ yn yr 1870au.

 

Gyda’i gilydd cyfieithodd Magnússon a Powell chwedlau gwerin a gasglwyd gan y llyfrgellydd a’r cyfarwyddwr amgueddfa Jón Arnason. Cyhoeddwyd Icelandic Legends mewn dwy gyfrol gan Richard Bentley yn Llundain yn 1864 a 1866. Aeth Powell i Wlad yr Iâ sawl gwaith ar adeg pan roedd ymwybyddiaeth genedlaethol yn tyfu, ac ymgyrchoedd annibyniaeth oddi wrth Ddenmarc yn cael eu cynnal.
Dywedodd Neil Holland, uwch guradur Amgueddfa’r Ysgol Gelf: “Roedd Powell yn gefnogwr o’r cenedlaetholwr a’r awdur o Wlad yr iâ, Jón Árnusson, gan roi £1,500 iddo, yn ôl pob golwg, i ysgrifennu hanes diffiniol ei famwlad ond na chafodd fyth ei gwblhau. Yn ôl yr Athro Gudmundur Oddur Magnússon, Powell yw ‘tad bedydd annibynniaeth Gwlad yr Iâ’.”

 

Dywedodd Dr Harry Heuser, Darlithydd mewn Hanes Celf ac ysgolor Powell: “Nid yw’r sylw hwn i iaith a diwylliant yn golygu, fel mae rhai wedi awgrymu, nad oedd diddordeb gan Powell yn niwylliant Cymru. Mae’r hyn mae rhai wedi ei ddehongli fel bradychu ei dreftadaeth yn deillio o fywyd teuluol anhapus Powell a’i berthynas anodd gyda’i dad, a arweiniodd Powell i greu hunaniaeth newydd i’w hun y tu hwnt i gymdeithas sgweieraidd Cymru.”

Dilynodd Zwecker gyfarwyddiadau Magnússon’s yn fanwl. Fel y disgrifiodd Magnússon mewn llythyr yn 1866 at Jón Sigurðsson, arweinydd mudiad annibyniaeth Gwlad yr Iâ: “Mae llun y fenyw yn cynrychioli Gwlad yr Iâ, felly mae ganddi goron o iâ ar ei phen, a thân yn ffrwydro ohoni. Ar ei hysgwydd mae’r gigfran, aderyn mwyaf nodweddiadol Gwlad yr Ia, ffrind hynafol Óðinn a ffefryn y beirdd, negesydd gwych a gwybodus. Dros y moroedd mae gwylan yn gwibio, ond ar draws tonnau amser a hanes daw ffyn rwnig i’r tir ac i freichiau’r fenyw, sy’n codi un ohonyn nhw. Dyma symbol o wlad llawn llenyddiaeth a hanes. Mae’n nos, mae sêr a’r lleuad yn yr awyr. Yn y cefndir, mae mynyddoedd, â golau’r lloer ar eu cribau.”

 

Arwyddocad diwylliannol

 

 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Robert Meyrick: “Roeddem ni’n ymwybodol o bwysigrwydd cymynrodd Powell o baentiadau, objet d’art, llyfrau a chyfrolau o ohebiaeth wedi’u rhwymo, ond tan nawr nid oedden ni wedi gwerthfawrogi’r arwyddocâd diwylliannol enfawr oedd i’n darlun ni o Fenyw’r Mynydd i bobl Gwlad yr Iâ.”

 

Mae Amgueddfa’r Ysgol Gelf bellach wedi rhoi darlun Menyw’r Mynydd Zwecker ar Wikipedia Commons fel y gall pawb ei werthfawrogi.