Rhifyn newydd O'r Pedwar Gwynt

Ar drothwy etholiad cyffredinol, mae Golygydd Cysylltiol O’r Pedwar Gwynt, Angharad Penrhyn Jones, yn archwilio’r berthynas rhwng yr arweinydd carismataidd a’r dilynwr ansicr: pam fod y berthynas rithiol hon yn medru ein harwain at y dibyn? Silvio Berlusconi, Saddam Hussein a Boris Johnson sy’n cael ei sylw wrth iddi ystyried narsisiaeth, sosiopathi a’r twf mewn poblyddiaeth. ​

Rhith o fath arall sydd ar feddwl Rhys Kaminsky-Jones – rhith rhamantaidd awduron sy’n sgwennu am Gymru a’r aruchel. Myfyria ar ‘Gymru gyfareddol y dychymyg mewnfudol’ a sut mae’n ‘toddi yng nglaw Cymru go iawn’.  ​

 

Penderfynu dawnsio ar y dibyn a wna enillydd Coron a Gwobr Goffa Daniel Owen 2019, Guto Dafydd. Mae’n mentro i fyd Oswald Spengler a theori dirywiad y Gorllewin wrth agor nofelau Michel Houellebecq, yr enfant terrible sy’n ddarllen angenrheidiol os am gael gafael ar y zeitgeist, yn ôl y New York Times. Ai ymgais i blymio moesoldeb ydi gwaith Houellebecq ynteu dim llai na phornograffi’r deallusion? ​

 

Cwymp wal – wal Berlin 30 mlynedd yn ôl, ond hefyd y ‘wal yn ein pennau’ – sydd ar feddwl Eluned Gramich, awdur o dras Almaenig. Mewn ysgrif bersonol, myfyria ar y berthynas rhwng y wladwriaeth a hunaniaeth, ac ar gymhlethdod y rhwyg rhwng y Gorllewin a’r Dwyrain.  ​

 

Yn 1989, roedd Angharad Price eisoes yn bwyta bara Berlin yng nghegin ei hathrawes Almaeneg yn Sling, Bethesda. Mae hi’n cofio’r cyfeillgarwch arbennig a ddatblygodd yn sgil gwersi gramadeg: ‘Des i weld bod dysgu iaith yn fwy na meistroli geirfa a gramadeg, ond yn hytrach yn fater o ymagor yn ostyngedig i brofiadau pobl eraill.’  ​

 

Pwy sy’n perthyn i Wobrau’r Selar? Dyma a ofynnir gan ddisgybl Lefel A a cherddor, Cerys Hafana, sy’n cofio mynychu’r seremoni wobrwyo a theimlo fel petai ‘newydd lanio o blaned arall’. Mewn ysgrif finiog, dadleua na ddylai unrhyw un orfod teimlo’n anweledig. ​

 

A hithau’n ganmlwyddiant geni Iris Murdoch eleni mae Ned Thomas yn cofio cyfweld y nofelydd a’r athronydd yn 1967 ar gyfer cylchgrawn Rwsieg. Yn y rhifyn hwn cawn ddarllen y cyfweliad gwreiddiol am y tro cyntaf yn y Gymraeg. Ceir yma drafodaeth ar nofelau Murdoch, ystyr cariad, a pham fod y nofelwraig yn gweld ei hun fel realydd. ‘Mae’r pethau mwyaf anhygoel yn digwydd,’ meddai, ‘ond mae’r canfyddiad dynol mor gyfyngedig fel ein bod ni’n eu troi’n ystrydebau.’ ​

 

Mewn cyfweliad prin â J M Coetzee, sy’n trafod hunansensoriaeth, myfyria Sioned Puw Rowlands ar arwyddocâd gwaith yr awdur Nobel o Dde Affrica a newidiodd drywydd ei ​bywyd. Dadleua fod ‘pob nofel yn gyfle i Coetzee osod ei hun ar y lein yn foesol yn gymaint ag yn greadigol’ a chwestiynir ganddi’r gynneddf gyffredin i geisio agosáu at yr awdur yn hytrach na’i waith. ​
Yng nghyd-destun cofio 1989 a’r frwydr sydd yn parhau yn Hong Kong, ceir hefyd gyfweliad â’r athronydd gwleidyddol Howard Williams am werth chwyldroi, ac am y tueddiadau rhamantaidd ar waith yng ngwleidyddiaeth y Deyrnas Gyfunol heddiw. ​
Adolygir toreth o lyfrau, yn ôl yr arfer, gan gynnwys Deian Hopkin yn ystyried jazz a’r awen las yng Nghymru; Mike Parker yn adolygu A Little Gay History of Wales; a Grug Muse yn trafod y nofel gyntaf am Brexit yn Gymraeg, Y Bwrdd.  ​

 

Ymhlith y colofnau arferol, mae rhifyn Gaeaf 2019 hefyd yn cynnwys gwaith creadigol gan Damian Walford Davies a rhagflas o nofel newydd gan Siân Melangell Dafydd yn ogystal ag o gyfrol newydd economegydd mwyaf dylanwadol heddiw, Thomas Piketty, eto i ymddangos yn Saesneg. ‘Mae cynnydd dynol yn bosib,’ dadleua, ‘ond mae’n fregus, a gall chwalu unrhyw bryd.’

 

Gwyntyllu cwestiynau anodd​

 

Yn ôl y Golygydd, Sioned Puw Rowlands, ‘Yn y cyfnod ôl-biwritanaidd hwn, mae trafodaeth agored – yn ein bywydau personol yn gymaint ag yn y gyhoeddfan – mewn peryg gwirioneddol o gael ei mygu. Mae rhoi lle i wyntyllu cwestiynau anodd, sy’n mynd yn groes i’r graen, wrth galon gweledigaeth O’r Pedwar Gwynt. Yn yr un ysbryd, ceir amrywiaeth o leisiau yn y rhifyn hwn eto – o ferch ysgol 17 mlwydd oed o ganolbarth Cymru i nofelydd yn ei wythdegau o ben arall y byd – a phob un yn cyfrannu at drafodaeth hanfodol am ein lle yn y bydysawd. Cawn ein hatgoffa o gyfraniad arbennig artistiaid a deallusion yn yr ymdrech feunyddiol i ymestyn libart ein deall.’  ​