Tîm merched Cymru yn chwarae ei gêm gyntaf yn Wrecsam ers 2012

09/01/2020

Categori: Chwaraeon, Newyddion

Fe fydd tîm merched Cymru yn chwarae ei gêm gyntaf yn Wrecsam ers 2012 pan fydden nhw’n wynebu Estonia ar Ddydd Gwener, 6 Mawrth.

Dyma’r pedwerydd tro fydd Cymru yn wynebu Estonia, sydd yn cael ei rheoli gan Jarmo Matikainen, cyn rheolwr Cymru. Yn y tair gêm orffennol, mae Cymru wedi cael dwy fuddugoliaeth ac un gêm gyfartal yn erbyn y wlad o Ogledd Ewrop.
 
Bydd y gêm gyfeillgar yn cael ei gynnal mewn cyfnod tyngedfennol yn y calendr rhyngwladol, union hanner ffordd drwy ymgyrch ragbrofol Cymru ar gyfer Ewro 2021, ble bydd Ludlow yn gobeithio arwain ei charfan i rowndiau terfynol y gystadleuaeth am y tro gyntaf.

 

Mae’r gêm yng ngogledd Cymru yn rhan o gynlluniau CBDC i dyfu’r gêm merched ar draws y wlad. Mae dau chwaraewr o’r gogledd, Elise Hughes a Rhiannon Roberts, wedi chwarae rhan hynod bwysig yn yr ymgyrch ragbrofol hyd yn hyn.

 

Merch o'r ardal

 

Meddai Elise Hughes,“Rwy'n hynod o falch i glywed bydd y tîm rhyngwladol yn chwarae yn Wrecsam. Fel merch o'r ardal, rwy'n gobeithio bydd y cefnogwyr yn troi fyny yn ei niferoedd a bydd yr achlysur yn medru ysbrydoli merched ifanc a helpu'r gêm i dyfu yng ngogledd Cymru.”