Cadw am gynnig profiad rhithiol trwy gynllun Drysau Agored
Categori: Addysg, Ar-lein, Celfyddydau, Llenyddiaeth, Newyddion

Fe fydd Cadw yn lansio casgliad epig o brofiadau trochi digidol, teithiau rhithiol cyflawn a gwibdeithiau 3D o gwmpas safleoedd — gan ganiatáu i ymweld â rhai o'ch hoff henebion a thirnodau hanesyddol yn rhithwir, o gysur eich soffa.
Mae'r cyfan yn rhan o ddathliad arbennig iawn o dreftadaeth a diwylliant adeiledig Cymru ar gyfer 2020: Drysau Agored Cadw Ar-lein.
Diolch i dechnoleg sganio 3D flaengar, rydyn ni’n eich gwahodd chi i grwydro dyfnderoedd cudd rhai o'n safleoedd hanesyddol mwyaf eiconig gan gynnwys: Castell tylwyth teg eiconig Cymru, Castell Coch, Siambr Gladdu Pentre Ifan a Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, Castell Harlech.
Bydd ein profiadau digidol hygyrch o safleoedd ar gael i'w gweld a'u harchwilio ar y dudalen we hon — gyda phecynnau cynnwys thematig wythnosol i'w rhyddhau fesul cam drwy gydol mis Medi.
Addas i bob dyfais
Mae wedi'i ddylunio i weithio ar bob dyfais, felly y cyfan fydd ei angen arnoch yw cyfrifiadur bwrdd gwaith, ffôn symudol neu set VR i ymdrochi yn eich antur Drysau Agored Ar-lein dewisol.
Dewiswch ymhlith ein pecynnau cynnwys isod i gael gwybod mwy am ein profiadau rhithwir thematig:
Beddau Neolithig (rhyddheir ddydd Mawrth 01 Medi)
Cestyll y De (rhyddheir ddydd Llun 07 Medi)
Abatai a Gweithfeydd Haearn (rhyddheir ddydd Llun 14 Medi)
Cestyll y Gogledd (rhyddheir ddydd Llun 21 Medi)