Cynllun arloesol i wresogi cymuned yng Ngwynedd

Mae yna gynllun yn ardal Blaenau Ffestiniog yng Ngwynedd i gynhyrchu ynni cynaliadwy mewn pentref gyda'r bwriad i ddileu tlodi tannwydd.


Mae partneriaeth yn cynnwys Ynni Cymunedol Twrog, Y Dref Werdd, Cwmni Bro Ffestiniog, Arloesi Gwynedd Wledig, Cyngor Gwynedd fel yr awdurdod tai strategol, Landlordiaid Cymdeithasol a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi dod ynghyd i daclo'r broblem unwaith ac am byth. Y bwriad ydi datblygu cynllun allai osod y ffordd i gynlluniau tebyg yng nghymunedau chwarelyddol y Gogledd megis Llanberis, Deiniolen, Nantlle a Bethesda a cymunedau sydd oddi ar y rhwydwaith nwy drwy Gymru.
 
Dywedodd y Cynghorydd Craig Ab Iago, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd: “Mae yna lawer o wahanol fathau o dlodi - economaidd, tanwydd, iechyd, addysg, tai, cymdeithasol a llawer mwy. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn effeithio arnom ni yma yng Ngwynedd, ac oherwydd cymhlethdod tlodi mae’n gallu edrych fel problem rhy fawr i’w ddatrys. 
 
“Ond rydan ni fel Cyngor yn benderfynol o daclo pob math o dlodi, ac yn sicr ni fydd tlodi uchelgais yn ein stopio. Mae’r prosiect yma yn enghraifft o hynny, ac yn dangos yr hyn sy’n bosib pan rydan ni’n dod a’n talentau at ei gilydd ac yn cydweithio.” 
 
Does dim llawer o enghreifftiau o rwydweithiau gwresogi yng Nghymru, ond mae nifer o ffactorau yn ardal Tanygrisiau yn golygu y gallai ôl-osod rhwydwaith gwresogi ardal ym mherchnogaeth gymunedol neu leol fod yn opsiwn hyfyw.
 
Mae’r Dref Werdd, Cwmni Bro Ffestiniog ac Ynni Cymunedol Twrog wedi arwain wrth sefydlu grwp llywio i drefnu astudiaeth dichonoldeb cychwynnol er mwyn medru cymharu'r opsiwn yma efo atebion posib eraill ar gyfer dileu tlodi tanwydd a datgarboneiddio gwresogi yn Nhanygrisiau. Bydd gwaith ar yr astudiaeth yn cychwyn dechrau Mawrth 2021.

 

Criw dygn


 
Dywedodd Meilyr Tomos o’r Dref Werdd: “Mae ‘na ryw ddeuddeg mlynedd ers i mi ddod yma i weithio gynta’. Roedd criw cyntaf o arloeswyr y Dref Werdd wedi bod wrthi’n ddygn yn pwyso i gael cynllun fel hyn ymhell cyn i mi landio. Nôl bryd hynny, y gobaith oedd cael cyflenwad nwy.
 
“Bellach, gyda’r newyddion yn ddyddiol yn trafod newid hinsawdd, gwyddom mai ateb tymor byr os nad niweidiol fydda hynny.”
 
Y nod ydi y bydd yr astudiaeth yn adnabod cyfleon i weithio efo darparwyr ynni lleol megis Greaves Welsh Slate, Dŵr Cymru, Engie (First Hydro) a Scottish Power, wrth darparu atebion cynaliadwy sy’n cyfarch anghenion ynni fforddiadwy trigolion lleol mewn modd effeithlon a dibynadwy.
 
Dywedodd Dafydd Watts o Ynni Cymunedol Twrog: “Dan ni’n falch iawn gweld y bartneriaeth o gyrff o’r sector cyhoeddus a’r sector cymunedol sydd wedi dod at ei gilydd fel hyn i sicrhau ffyrdd i gymunedau’r ardal yma medru defnyddio ac elwa mwy o’r holl gyfleon i gynhyrchu ynni adnewyddol yn lleol.
 
“Mae angen mwy o gynlluniau ynni glân ym mherchnogaeth cymunedau’r ardal, ac mae angen iddi fod yn haws defnyddio mwy o’r ynni ‘dan ni’n cynhyrchu yma at anghenion lleol yn lle dim ond ei allforio trwy'r grid.”