Y bardd a'r academydd Mererid Hopwood yn traddodi darlith yng Ngŵyl y Gelli

12/05/2021

Categori: Addysg, Ar-lein, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion

Bydd academydd a bardd o Brifysgol Aberystwyth ar raglen Gŵyl y Gelli eleni, a ddarlledir am ddim ar-lein o'r Gelli Gandryll o 26 Mai tan 6 Mehefin.

Yn yr ŵyl, fe gyflwynir yr Athro Mererid Hopwood, a ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth fel Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym mis Ionawr 2021, yn Gymrawd Rhyngwladol newydd Cymru Greadigol Gŵyl y Gelli.  Ac fe drafodir rhai cwestiynau sy’n berthnasol iawn i'r byd sydd ohoni, yng nghyd-destun pandemig COVID-19, mewn darlith a fydd yn cael eu traddodi gan academyddion o Aberystwyth. 

 

Bydd darlith yr Athro Hopwood ddydd Sul Mai 30 yn trafod sut mae'r beirdd wedi dychmygu iaith a sut mae'r dychymyg hwnnw yn ein helpu i ddeall yr elfen hanfodol hon o lenyddiaeth. 

 

Mae'r ysgolhaig o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill prif gystadlaethau’r Brifwyl dair gwaith, a hi oedd y fenyw gyntaf i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn 2001. Mae wedi bod yn Fardd Plant Cymru ac wedi ennill gwobr Glyndŵr am ei chyfraniad at lenyddiaeth. Roedd ei chasgliad o farddoniaeth Nes Draw yn fuddugol yng nghategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016.

 

Ymestyn nest at adref

 

Dywedodd yr Athro Hopwood: “Fel Cymrawd Rhyngwladol Cymru Greadigol Gŵyl y Gelli eleni, mae’n arbennig o braf gweld yr Ŵyl yn ymestyn nid yn unig dramor ond hefyd yn nes at adref. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at barhau’r drafodaeth ddechreuodd llynedd am ddwyieithrwydd, gan ystyried eleni sut mae llenorion wedi dychmygu iaith ar hyd yr oesoedd.”

 

Ychwanegodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “A ninnau'n brifysgol sydd ag enw da am ragoriaeth ein gwaith dysgu ac ymchwil, mae gennym lawer o werthoedd cyffredin â Gŵyl y Gelli – yn fan lle y gellir trin a thrafod materion pennaf yr oes.  Mae'n bleser gennym fod yn bartner i Ŵyl y Gelli, 2021, gan barhau â'n perthynas ehangach a fagwyd drwy fentrau megis Taith 'Scribblers' Gŵyl y Gelli, 'Hay Levels' a'n cynlluniau am ŵyl flynyddol ar y cyd yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth ar ôl iddo ailagor tua diwedd 2023.”

 

Bydd y rhaglen ddigidol o ddigwyddiadau am ddim i Ŵyl y Gelli 2021 yn dod â llenorion a darllenwyr ynghyd am amrywiaeth o sgyrsiau, trafodaethau, gweithdai a pherfformiadau ar-lein, yn llawn ysbrydoliaeth, o ddydd Mercher 26 Mai tan ddydd Sul 6 Mehefin.  I weld y rhaglen lawn o ddigwyddiadau ac i gofrestru ar-lein yn rhad ac am ddim, gweler: www.hayfestival.com.