Taith Eisteddfodwyr i Ganolfan Mileniwm Cymru Dydd Sul, 5 Awst

03/08/2012

Categori: Celfyddydau

Yn dilyn llwyddiant taith ddrama i Gastell y Waun yn Eisteddfod Wrecsam 2011, rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod ni’n gallu cynnig taith arbennig arall.  Dyma gyfle i chi Eisteddfodwyr fwynhau taith yn rhad ac am ddim i ymweld â Chanolfan Mileniwm Cymru.  Mae’r Ganolfan yn awyddus i’ch croesawu ac felly wedi trefnu gweithgareddau ar eich cyfer.  Mae’r amserlen isod, ond bydd y daith yn cynnwys trafnidiaeth i’r Ganolfan, taith dywys tu cefn llwyfan a chyfle unigryw i gael ymweld ag arddangosfa newydd y Ganolfan. Dros gyfnod yr haf bydd y Ganolfan yn gartref i arddangosfa ar y cyd rhwng Iwan Bala a Menna Elyn. 

 

Bydd y ddau artist yno i’ch cyfarch a chynnal sgwrs am y gwaith.  A chyn dychwelyd i’r Maes, byddwch chi’n cael eich tywys i Far a Bwyty ffresh am luniaeth.

 

Does dim ond lle i 30, felly cyntaf i’r felin.... 

 


I gadw’ch lle e-bostiwch hannah.wynn.jones@wmc.org.uk

 


Amserlen

3.30pm  Bws (Watts Coaches) yn gadael Prif Fynedfa’r Maes 

4pm       Taith Dywys o amgylch y Ganolfan  

4.45pm  Cwrdd â Menna Elfyn ac Iwan Bala

5.45pm Lluniaeth ym Mar ffresh

7pm       Dychwelyd ar fws (Watts Coaches) i’r Maes

 


Os oes gyda chi newyddion am eich menter, prosiect, busnes, sefydliad neu rywbeth unigol, danfonwch atpost@lleol.net ac fe wnawn roi'r neges ar led