Pa un yw eich hoff gân Nadolig?
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth

I ddathlu'r Nadolig, rydym yn Lleol.Cymru wedi dethol rhai o ganeuon Cymraeg mwyaf cofiadwy'r Nadolig a rhai efallai sydd ddim mor gofiadwy! Mae gan Gymru draddodiad hir o ganeuon Nadoligaidd yn olrhain i'r traddodiad canu Plygain yn y ddeunawfed ganrif. Un o'r caneuon plygain cofiadwy yw Ar gyfer Heddiw'r Bore faban bach, gyda llawer o gymunedau yn parhau i gynnal gwasanaethau Plygain ledled Cymru.
Ond bellach, mae gennym hefyd glasuron modern wedi'u creu gan artistiaid blaenllaw yn amrywio o Meic Stevens i Garyl Parri Jones. Pa un yw eich hoff gân chi?
Dyma restr o 10 uchaf Lleol.cymru:
1. Dyma ni yn rhif 1 - y dewin o Solfach, Meic Stevens gyda chlasur yng ngwir ystyr y gair: Noson Oer Nadolig.
2. Yn rhif dau, mae Delwyn Sion yn rhoi naws deimladwy i'r Wyl gyda'i Un Seren.
3. Yn rhif 3, dyma berl gan Ryan Davies: Nadolig Pwy a Wyr.
4. Blas o hiwmor yr Anrhefn yn bedwerydd gyda Stwffiwch y 'Dolig nid y Twrci, gyda Gruff Rhys yn rhoi ei fersiwn ddihafal ei hun.
5. Dyma Caryl Parri Jones yn bumed, gyda'i chaneuon sydd wastad yn boblogaidd mewn cyngherddau.
6. Yn y chweched safle, cawn gân Nadolig gan Colorama sydd yn hen lawiau ar gynhyrchu cerddoriaeth o safon - Cerdyn Nadolig.
7. Yn y seithfed safle, cawn fersiwn wahanol o Nadolig Pwy a Wyr? gan Wali Tomos, C'mon Midffild. Bydd cenhedlaeth yr 1980au a'r 1990au a fagwyd ar gyfresi Bryn Coch yn hen gyfarwydd gyda hon.
8. Nid ydym yn siwr pam fod hon yn rhif 8, ond i bobl sy'n licio Tony ac Aloma, dyma wledd i chi.
9. Ac yn rhif naw, cawn gân arall boblogaidd gan Caryl Parri Jones.
10. Yn rhif 10, ychydig o nostalgia i blantos mawr Cymru, gyda Nadolig yng Nghwm Rhyd y Chwadods.