Colli Merêd

23/02/2015

Categori: Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion

Colli Merêd

Cwta bum niwrnod ers i'r Dr John Davies ein gadael, daw’r newyddion trist fod Cymru wedi colli cawr arall, Merêd, ac yntau'n 95 mlwydd oed. 

 

Ganed Meredydd Evans yn Llanegryn, Meirionnydd, ac fe'i magwyd yn Nhanygrisiau, Blaenau Ffestiniog. Yn ystod ei blentyndod, byddai ei fam yn canu caneuon gwerin iddo a datblygodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg, tra'n astudio Athroniaeth ym Mhrifysgol Bangor.   

 

Yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr, bu’n rhan o driawd poblogaidd -Triawd y Coleg, ac yr oeddent yn cael eu hystyried yn rhagflaenwyr arloesol i gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg yr ugeinfed ganrif.

 

Ym 1954, fe recordiodd ddetholiad pwysig o ganeuon i Folkways Records yn Efrog Newydd tra’n astudio am ddoethuriaeth mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Princeton. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru, golygodd Merêd a'i wraig Phyllis Kinney dri chasgliad o ganeuon Cymraeg. 

 

Yn y 1960au, fe'i penodwyd yn bennaeth adloniant ysgafn gan y BBC, ac fe wnaeth gyfraniad aruthrol i ddiwylliant ysgafn trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr oedd hyd heddiw yn cael ei gydnabod fel y prif awdurdod ar gerddoriaeth werin Gymraeg. 

 

Yn y ystod y pymtheg mlynedd ddiwethaf, bu’n ymgyrchydd gweithgar gyda mudiad Cylch yr Iaith, yn protestio yn erbyn seisnigeiddio Radio Cymru. 

 

Yr oedd yn arloeswr a chanddo feddwl craff, ac roedd yn angerddol dros y Gymraeg.  Ond yn bwysicach na dim, bydd yn cael ei gofio fel gŵr addfwyn; doniol a thwymgalon. Bydd colled mawr ar ei ôl. 

 

Teyrngedau

 

Dywedodd y Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, "Roedd cyfraniad Merêd i fyd adloniant Cymru ac i’r iaith Gymraeg heb ei ail. Fe allai yn hawdd fod wedi gorffwys ar ei rwyfau ar ôl ei waith arloesol ym myd adloniant, ond fe ddewisodd barhau i ymladd ac ymgyrchu dros y Gymraeg. Am hynny rydym oll yn ei ddyled."

 

Gweithredu Di-drais

 

Talwyd teyrnged iddo gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg,"Yn ogystal â bod yn ysgolhaig, yn berfformiwr roedd y Dr Meredydd Evans yn ymgyrchydd iaith, yn ladmerydd dros y dull di-drais o weithredu dros y Gymraeg ac yn un o’r dri Pencarreg a dorrodd i mewn i fast fel rhan o’r ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg."

 

"Bu hefyd yn gweithredu yn anghyfansoddiadol fel rhan o ymgyrch y Gymdeithas dros Ddeddf Iaith Newydd a arweiniodd at wrandawiadau mewn Llysoedd gwahanol." 

 

"Mae Cymru wedi colli cawr heddiw. Roedd Mered yn ymgyrchydd diflino dros y Gymraeg ac yn ladmerydd mawr o’r dull di-drais. Heb os roedd yn un o’r dynion anwylaf i’w adnabod a’i gariad dros yr iaith a’r pethe yn ysbrydoli cenedl gyfan."

 

Dyma glip amdano:

 

 

Dyma ddetholion o'r ymateb ar Trydar: