dotCYM yn dirwyn i ben

14/12/2012

Categori: Ar-lein, Newyddion

Mae dotCYM wrthi’n mynd drwy’r broses o ddatymgorffori. Pledleiswyd yn y Cyfarfod Blynyddol i gau’r cwmni gan nad oes diben i’r cwmni barhau ar ôl i Llywodraeth Cymru roi perchnogaeth o enw a brand y Cymry ar-lein i gwmni preifat o Loegr nad yw’n atebol i’r Cymry.


Fwy nag unwaith rhybuddiom Ieuan Wyn Jones, y cyn-Wenidog gyda chyfrifoldeb am barth lefel-uchaf i Gymru, y byddai gweision sifil Cymru a’r Blaid Lafur yn rhoi’r parth i Nominet yr eiliad y byddai’n colli ei swydd os na fyddai’n sicrhau taw corff Cymreig sy’n atebol i’r Cymry fyddai’n gyfrifol am y parth.


“Wedi pedair mlynedd o Blaid Cymru mewn grym yn gwneud dim byd positif i’n helpu, daeth Edwina Hart yn Wenidog”, meddai Maredudd ap Gwyndaf, cyn-gyfarwyddwr dotCYM, “Cafodd Nominet y nód i symud i fewn a doedd dim gobaith gyda ni yn erbyn cwmni mawr o’r fath, oedd yn cael cymorth gymaint o Gymry i gymryd adnodd mor bwysig oddi wrth y wlad. Does dim ots punai Llafur neu Plaid Cymru sydd a’r grym, does dim diddordeb mewn mentrau cymdeithasol, yn enwedig os oes sôn am gefnogi iaith neu ddiwylliant fel rhan o’r fenter”.


Gyda dim ond dau wirfoddolwr yn gweithio yn eu hamser rhydd gyda dotCYM, roedd yn bosib i redeg y fenter ond yn amhosib ymladd yn erbyn Nominet, y gweison sifil yng Nghymru, Llywodraeth Cymru, Darran Hill a’i gwmni PR, a Ieuan Evans ac aelodau eraill Grŵp Yngynghorol Nominet Cymru.


Yn ôl Maredudd ap Gwyndaf, “Roedden i’n mynd i siarad gyda gwleidyddion Cymru yng Nghaerdydd a Llundain ac roedd Nominet ac aelod o’r Grŵp Ymgynghorol wedi bod gyda phob un ohonyn nhw’n barod yn dweud celwydd am dotCYM, gan ddweud ein bod yn creu parth ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig, gan anwybyddu’r di-Gymraeg a busnesau.. Roedd hyn yn gelwydd llwyr ac roeddwn nhw’n ymwybodol o hyn, ond gyda dim ond digon o amser i fynd i gwrdd a llond dwrn o wleidyddion a dim arian i ymladd Nominet yn gyfreithlon roedd yn amhosib rhoi stop ar eu celwyddau a’u peiriant PR. Roedd pob gwleidydd oedd yn cwrdd â ni yn ein cefnogi ar ôl dod yn ymwybodol o’r gwir ond doedd dim amser i gwrdd â llawer”.


Ni chymerodd lawer o amser i Nominet ddangos ei diffyg parch at Gymru. Creodd Nominet wefan ar gyfer y parthau .cymru a .wales gyda’r cynnwys Saesneg wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg yn defnyddio Google Translate. Gellir gweld erthygl ar hyn yma.


Er mwyn trio deall pam fyddai gweision sifil Cymru mor benderfynol i sicrhau fod Cymru yn colli perchnogaeth a rheolaeth o’i parth gwnaethpwyd cais Rhyddid Gwybodaeth am y cyfathrebu rhwng Nominet a’r gweision sifil. Gwrthodwyd y cais oherwydd y risg y byddai pobl yn anhapus gyda’r wybodaeth:


“A series of recent campaigns have focused on the role of the Welsh Government in the delivery of the top level domain names. An announcement has recently been made regarding the delivery of an application for top level domains for Wales. It is likely that the release of any further information at this time will give rise to further campaigns which are likely to cause damage to the delivery of a strong top level domain.


The relationship that the Welsh Government has with its stakeholders is central to delivering the outcomes of Digital Wales, such as reducing the impact of digital exclusion. Any publicity surrounding the creation of domain names carries the potential to damage relationships between the Welsh Government and business and community stakeholders. This will result in a situation in which stakeholders will be less likely to engage with the Welsh Government and this will put at risk the Welsh Government’s ability to deliver against the policy aims described in Delivering a Digital Wales.”


“Holl bwynt Rhyddid Gwybodaeth yw fod tryloywder yn y Llywodraeth”, dywedodd Maredudd ap Gwyndaf, “Mae’n hurt fod y ffaith fod y Llywodraeth ofn y byddai pobl yn anhapus gyda’r wybodaeth ac yn ymgyrchu yn ddigon o esgus I guddio’r wybodaeth oddi wrthom. Ond mae’n dangos fod Nominet siwr o fod wedi chwarae’n frwnt”.


Y gobaith nawr yw y bydd y Comisiynydd Gwybodaeth yn rhyddhau’r wybodaeth pan fyddwn yn mynd a’r mater ymhellach. Erbyn hyn dydyn ni ddim yn ffyddiog y bydd y wybodaeth yn dangos gymaint ag yr oeddwn yn gobeithio ar ôl y newyddion diweddar am Nominet a gweision sifil Prydeinig yn defnyddio e-bost personol I gyfathrebu er mwyn osgoi Rhyddid Gwybodaeth. Geillir gweld erthygl ar y pwnc yma.


Rhaid cofio yn ystod y cyfnod hwn bu dotCYM yn gweithio’n agos gyda mentrau tebyg o’r Alban, Galisia, Gwlad y Basg, Llydaw a sawl gwlad ac ardal arall. Cymru oedd yr unig un I benderfynu nad oedd diddordeb ganddi ym mherchnogaeth a rheolaeth ei henw ar y we. Mae’r gweddill i gyd wedi rhoi cais I fewn fel cyrff lleol yn atebol I’w cymunedau.


Mae’r bennod hon yn ein hanes yn warth ar ein Cynuuliad, ar ein gwasanaeth sifil, ar y Blaid Lafur ac yn arbennig ar Blaid Cymru a’i Dic-Sion-Dafyddion cyfoes.


Hoffai dotCYM ddiolch i bawb a’n cefnogodd dros y blynyddoedd. Bydd y wefan a Twitter (@dotcymru) yn cael ei ddiweddaru a chylchlythyron yn cael eu hanfon pan fydd mwy o newyddion, ond ni fydd y cwmni, dotCYM Cyf., yn bodoli mwyach.

 

Ffynhonnell www.dotcym.org

 

Beth yw eich barn chi?