Dim newid mewn ymdriniaeth o'r Gymraeg yn y broses gynllunio, yn ôl mudiad iaith

03/08/2015

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Nid yw cynghorau sir wedi newid y ffordd maen nhw'n trin y Gymraeg wrth ymdrin â cheisiadau cynllunio, er gwaethaf newid diweddar yn y gyfraith, yn ôl canlyniadau arolwg gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

 

O'r cynghorau sir a ymatebodd i ymholiad gan y mudiad iaith ynglŷn â'r ffordd maen nhw'n addasu eu polisïau cynllunio yn sgil pasio Deddf Cynllunio ym mis Mai eleni, nid oedd yr un cyngor bwriadu, nag yn cynllunio i, newid eu hymdriniaeth o'r iaith. Mae'r ddeddf yn gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol i'r system gynllunio am y tro cyntaf erioed, gan roi grym statudol i gynghorwyr wrthod neu ganiatáu datblygiadau ar sail eu heffaith ar yr iaith. Bydd rhaid hefyd i'r gyfundrefn yn ei chyfanrwydd hybu datblygu cynaliadwy, sydd yn cynnwys ystyriaeth o anghenion y Gymraeg. Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau wneud asesiad o effaith eu cynlluniau datblygu ar yr iaith yn y tymor hir. 

 

Mae canllawiau cynllunio'r Llywodraeth yn nodi bod modd i awdurdodau ail-ystyried eu cynlluniau datblygu os oes newid mawr i bolisi neu ddeddfwriaeth genedlaethol. Mewn ymateb, dywedodd Cyngor Conwy eu bod yn ystyried "bod y Cynllun Datblygu Lleol eisoes yn bodloni gofynion y Bil Cynllunio o ran y Gymraeg, ac felly mae'n annhebygol y byddai angen adolygiad ar y sail hon". Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion "nid yw'r rheidrwydd newydd sydd yn y Ddeddf yn peri bod angen adolygu'r CDLl yn gynharach" ac mae Cyngor Bro Morgannwg yn aros am ganllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd Cyngor Wrecsam bod gyda nhw "Nodyn Canllaw Cynllunio Lleol yn barod o ran cynllunio a'r iaith Gymraeg ...".  

 

Dim newid

 

Wrth siarad ar y maes, rhybuddiodd Tamsin Davies llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, nad oedd cyrff yn paratoi ar gyfer y newidiadau,"Mae ymatebion y cynghorau yn awgrymu bod dim wedi newid yn sgil y ddeddfwriaeth. Mae angen i'r Llywodraeth a'r cynghorau weithredu'n gyflym er mwyn sicrhau bod symud ymlaen i weithredu'r newidiadau pwysig a cafwyd drwy'r ddeddfwriaeth. Mae angen amserlen gan y Llywodraeth o ran dod ag adrannau'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud a'r iaith i rym - ydyn nhw'n bwriadu ei weithredu cyn yr etholiadau fis Mai nesaf? Neu ydyn nhw'n mynd i lusgo eu traed?"   

 

Dryswch

 

Ychwanegodd Tamsin Davies, "Mae nifer o gynghorau dan yr argraff bod modd iddyn nhw barhau yn yr un ffordd ag o'r blaen, ond dylen nhw fod yn paratoi a phwyso ar y Llywodraeth am arweiniad. Mae'r newid yn y gyfraith yn creu cyfle i gynghorau weithredu'n flaengar o blaid y Gymraeg. Fel mae pethau, mae perygl y bydd y sefyllfa yn arwain at ddryswch a llanast, fel mae profiad yng Ngheredigion yn dangos. Yn syth wedi pasio'r ddeddfwriaeth fe ysgrifennon ni at y Llywodraeth i ofyn beth oedd eu cynlluniau i sicrhau bod cynghorau yn derbyn arweiniad, ond nid oes cynlluniau clir ganddyn nhw i ddiweddaru'r canllawiau." 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru