Disgynyddion rhoddwr Tŷ'r Cymry yn galw ar yr ymddiriedolaeth i ail ystyried y gwerthiant

12/05/2021

Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae disgynyddion i Lewis Williams, y dyn roddodd Canolfan Gymraeg Tŷ’r Cymry yn rhodd “i Gymry Caerdydd” yn 1936, wedi ysgrifennu at yr ymddiriedolwyr yn galw arnynt i beidio gwerthu’r Tŷ, wythnos cyn i ocsiwn ddadleuol gael ei chynnal gyda’r bwriad o werthu’r ganolfan Gymraeg.

Mae wyres Lewis Williams yn 97 oed ac yn cofio’i thad-cu yn rhoi’r adeilad yn rhodd. Meddai ei hŵyr, Owain Grant, sy’n or-or-ŵyr i Lewis Williams: "Roedd Lewis Williams yn dad-cu i fy nain. Gath hi a gweddill fy nheulu siom i glywed bod Tŷ'r Cymru ar werth. Cafodd y ganolfan ei rhoi i Gymry Cymraeg Caerdydd ac mae’n rhaid i'r adeilad gael ei gadw at y defnydd hynny."

"Dw i'n siŵr byddai Datch (Lewis Williams) yn falch o weld y defnydd mae'r adeilad wedi'i gael i gefnogi'r iaith yng Nghaerdydd. Dw i'n anghytuno bod hawl gan yr ymddiriedolwyr i werthu'r adeilad. Mae cyfamod am ddefnydd yr adeilad ac mae’n annilys iddo gael ei werthu fel eiddo preifat"

 

Ers clywed bod y pwyllgor o ymddiriedolwyr yn bwriadu gwerthu Tŷ’r Cymry, mae nifer o bobl o gymuned Gymraeg Caerdydd wedi cynnig cymorth i adfer y ganolfan Gymraeg, ac mae llawer yn gwrthwynebu ei werthiant, ond mae’r ymddiriedolwyr wedi gwrthod pob posibiliad heblaw gwerthu’r adeilad. Maen nhw wedi rhestru’r Tŷ mewn ocsiwn i gael ei chynnal ar 18 Mai.

 

Ansicrwydd

 

Daw hyn yn dilyn ymgais i’w werthu ym mis Mawrth, a dynnwyd yn ôl oherwydd ansicrwydd cyfreithiol ynghylch tenantiaethau, a goblygiadau statws cymunedol yr adeilad. Mae’n ymddangos bod y plac marmor hanesyddol sy’n nodi’r rhodd i’r gymuned, wedi ei falu i ffwrdd, mewn ymgais i guddio ei statws cymunedol.

 

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar yr ymddiriedolwyr i atal y gwerthiant ar unwaith a galluogi’r gymuned y rhoddwyd yr adeilad iddi benderfynu ei ddyfodol.