Diwedd trawiadol i chweched Gwyl Rhif 6

11/09/2017

Categori: Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion

Daeth Gwyl Rhif 6 i ben yn y modd mwyaf trawiadol wrth i’r Flaming Lips orffen y chweched gwyl gyda goleuadau llachar, wrth i filoedd dreulio’r penwythnos yn Portmeirion.

Roedd yna fandiau o bob rhan o’r byd yn perfformio yn yr Wyl, ac yn ei plith yr oedd bandiau ac artistiaid adnabyddus fel Yws Gwynedd a Candelas a Chor y Brythoniaid yn dangos eu doniau.

 

Y mae Gwyl Rhif 6 yn gwbl unigryw a doedd eleni ddim yn eithriad wrth i filoedd o bobl o wledydd Prydain a gweddill y byd fwynhau prydferthwch y gogledd ac Eryri wrth wrando ar gerddoriaeth o safon, a gwledda ar y bwydydd gwahanol.  

 

Os fethoch chi’r penwythnos, dyma ychydig o uchafbwyntiau’r Wyl. Tan tro nesa Wyl Rhif 6.