Diwrnod allan i'r cwn yng Nghastell Caeriw

17/08/2018

Categori: Amgylchedd, Hamdden, Newyddion

Mae Castell Caeriw yn Sir Benfro yn paratoi i groesawu llond lle o gyfeillion bach blewog ar gyfer Diwrnod Allan i’r Cŵn ar ddydd Sul 19 Awst, lle bydd cŵn a’u perchnogion balch yn cymryd yr awenau ar y safle sy'n gyfeillgar i gŵn.

Bydd sioe gŵn llawn hwyl ar gyfer ein ffrindiau pedair coes o bob maint yn ogystal â chwrs ystwythder cŵn a stondinau gyda danteithion i anifeiliaid anwes a pherchnogion. Bydd digwyddiadau i blant ar y thema cŵn, helfa drysor a Thaith Fawr y Cŵn am 3pm.

 

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: "Mae'r diwrnod yma yn addo i fod yn berffaith ar gyfer pobl sy’n gwirioni ar gŵn a'u ffrindiau pedair coes gyda gweithgareddau a digwyddiadau y gall pawb eu mwynhau.

 

Cwn gyfeillgar

 

"Mae Castell Caeriw yn gyfeillgar i gŵn drwy gydol y flwyddyn; cafodd ei enwi'n Ddiwrnod Allan/Atyniad Gorau i Gŵn yng Ngwobrau cyntaf Twristiaeth Sir Benfro y llynedd, ond mae hwn yn gyfle unigryw i ddod â'ch ffrindiau pedair coes gyda chi i ddathlu ffrind gorau dyn (a menyw). "

 

Mae ffioedd mynediad arferol y Castell yn berthnasol a bydd tâl bach am rai gweithgareddau.