Dros 17,500 yn rhedeg strydoedd Caerdydd

06/10/2014

Categori: Chwaraeon, Newyddion

Fe ddaeth miloedd o redwyr a chefnogwyr i'r brif ddinas ddoe i redeg yr ail hanner marathon mwyaf yn Prydain. 

 

Dechreuodd y ras am 9.00yb a enillydd ras y dynion oedd Boniface Kongin o Kenya mewn amser o 62:02 gyda Joan Chelimo hefyd o Kenya yn ennill ras y merched. 

 

Y Cymro cyntaf i groesi'r llinell oedd Ieuan Thomas mewn amser o 65:37. Dywedodd e fod yr awyrgylch yn 'drydanol' o amgylch y cwrs. 

 

Ond yn ogystal ag athletwyr proffesiynol roedd yna filoedd o bobl (2,000 yn fwy na llynedd) yn rhedeg fel gôl bersonol, i wella amser personol neu yn codi arian i elusennau gwahanol.

 

A dyma rhai o'i negeseuon nhw o'r cyfryngau cymdeithasol: