Dydd Sadwrn mawreddog i dimau Cymru

Mae’r Sadwrn hwn yn argoeli’n ddydd Sadwrn mawreddog ymhob ystyr y gair, gyda gemau pwysig yn wynebu hogiau’r belgron a’r hirgron yn Bosnia a Llundain.
Mae tîm rygbi Cymru eisoes wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau’r wyth olaf yng Nghwpan y Byd, trwy guro’r hen elyn Lloegr ar y ffordd. Fel tamaid i aros pryd, fe fydd y bois y bel hirgron yn wynebu eu prawf anoddaf hyd yma, wrth iddynt baratoi i wynebu Awstralia ddiwedd pnawn Sadwrn, sy’n argoeli’n gêm ffrwydrol a chorfforol i wyr Warren Gatland. Awstralia yw deiliaid pencampwriaeth y Tri-nations eleni gyda'r Wallabies yn edrych yn fygythiol dros ben. Ond mae’r tîm rygbi wedi goresgyn y rhwystr cyntaf ac yn edrych ymlaen yn awyddus i fynd yn bellach yn y twrnameint.
Ar drothwy hanes
Ond i goroni’r dydd Sadwrn mawreddog, fe fydd tîm pêl-droed Cymru ar drothwy hanes wrth iddynt wynebu Bosnia i ffwrdd yn Zenica mewn gêm dyngedfenol dros ben. Mae gwyr Chris Coleman angen 1 pwynt yn unig o’u dwy gêm olaf i ffwrdd yn Bosnia ac adref yn erbyn Andorra i sicrhau lle ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.
Mae’r tîm cenedlaethol bellach yn 8fed yn y byd allan o 208 o wledydd ac ar ben grwp B, gyda’r cyfle gorau eto i gyrraedd prif dwrnameint am y tro cyntaf ers dyddiau John Charles yng Nghwpan y Byd yn Sweden 1958. Fe fydd seren y tim cenedlaethol Gareth Bale yn holliach ac yn barod i danio ynghyd a gweddill y dreigiaid, wrth i’r genedl gyfan gymryd anadl fawr. Gorau Chwarae: Cyd Chwarae!
Pob lwc i’r ddau dîm ddydd Sadwrn, fe fydd Cymru i gyd yn gwylio.
Dyma gyfle i chi fwynhau goliau Cymru yn y grwp rhagbrofol hyd yma ac ailfyw buddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr: