Dyfodol Teledu Cymraeg

28/05/2014

Categori: Ar-lein, Eisteddfod yr Urdd, Iaith

Trafod Dyfodol Teledu Cymraeg

Ar 27 Mai, bu Prif Weithredwr S4C, Ian Jones a Chadeirydd yr Awdurdod, Huw Jones, yn trafod Dyfodol Teledu Cymraeg mewn araith ar faes Eisteddfod yr Urdd 2014, gan gyhoeddi dogfen ymgynghorol ar y pwnc ar yr un pryd.

 

Fe fydd y blynyddoedd nesaf yn rhai allweddol i ddyfodol S4C. Mae heriau mawr yn wynebu'r sianel yn nhermau datblygiadau technolegol, arferion gwylio, creu cynnwys beiddgar, a sicrhau arian digonol i'r gwasanaeth.

 

Fe fydd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, a Phrif Weithredwr y sianel, Ian Jones, yn trafod y materion hyn ar faes Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014.

 

Lawr lwythwch y ddogfen ymgynghorol - Dyfodol Teledu Cymraeg