Dylan Thomas - ffrind y Gymraeg?

27/03/2014

Categori: Adolygiadau Llyfrau, Llenyddiaeth

A hithau yn flwyddyn dathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas, mae llyfr newydd gan y newyddiadurwr Kate Crockett yn cynnig golwg ffraeth a ffres ar fywyd a gwaith y bardd a’r awdur. Ac wrth i’r ffrae ynghylch agwedd Dylan tuag at yr iaith Gymraeg gael ei hail gynnau, mae’r awdur hefyd yn gwrthod yr honiad ei fod yn wrth-Gymraeg.

 

Lle bu digonedd o drafod ac ysgrifennu am ei farddoniaeth a’i fywyd tymhestlog yn Saesneg, mae ‘Mwy Na Bardd: Bywyd a Gwaith Dylan Thomas’, a gyhoeddir gan Cyhoeddiadau Barddas, yn adrodd hanes bywyd Dylan Thomas ac yn ogystal yn trin a thrafod ei waith yn gyflawn rhwng dau glawr, am y tro cyntaf yn Gymraeg.

 

Gyda chwa o awyr iach a llygaid newyddiadurol craff, mae Kate Crocket yn dod â ffresni ac egni heintus i stori’r llenor cymhleth o Abertawe. Mae ‘Mwy Na Bardd’ yn edrych o safbwynt y Cymry Cymraeg ar ei deulu a’i fagwraeth a’u dylanwad ar ei feddylfryd a’i waith, ei farwolaeth a’r waddol a adawodd ar ei ôl.

 

Meddai Kate Crockett, newyddiadurwr a chyflwynydd gyda BBC Cymru, sydd eisoes wedi cyhoeddi llyfryn byr ar Dylan Thomas:

 

“Mae rhai  pobol yn honni bod Dylan yn wrth-Gymreig,  ond pan wnes i wneud yr ymchwil ar gyfer ‘Mwy Na Bardd’, dwi ddim wedi ffeindio unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny o gwbl. Mae’n argraff sydd wedi cael ei chreu  ar hyd y blynyddoedd – ac sy’n cael ei hailadrodd hyd heddiw -  achos bod e’n siwtio rhai pobol i ddweud hynny. Ond roedd profiad Dylan yn eitha‘ tebyg i brofiadau lot o deuluoedd yng Nghymru oedd yn siarad Cymraeg, ac wedi colli’r iaith. Yn ôl llawer o’i gyfeillion, byddai wedi hoffi siarad yr iaith.

 

“Yng Nghymru roedd Dylan eisiau byw, doedd e ddim eisiau bod yn unman arall... Gyda’i ffrindiau o’i ddyddiau yn Abertawe oedd e’n teimlo yn gyfforddus. Doedd e ddim yn un o’r bobol yma wnaeth droi ei gefn ar Gymru neu esgus bod e ddim yn dod o Gymru.”

 

“Mae ei waith e wedi cael ei gyfieithu i’r Gymraeg, ond does dim byd am ei hanes e yn y Gymraeg. Ry’n ni mewn ffordd wedi gadael i bobol eraill i ddweud wrthon ni beth i feddwl amdano fe yn hytrach na gwneud ein penderfyniad ein hunain amdano fe, o safbwynt Cymry Cymraeg.”

 

Yn anochel, mae’r awdur hefyd yn ei ystyried o safbwynt un sy’n byw ym mwrlwm yr unfed ganrif ar hugain ac yn gwneud ambell gymhariaeth drawiadol yn ‘Mwy Na Bardd’ - dyma’n sicr y tro cyntaf y cafodd Dylan Thomas ei gymharu â Michael Jackson.

 

“Pan fu farw’r canwr Michael Jackson yn 2009, er enghraifft, roedd cryn dipyn o’r manylion yn adlais cyfarwydd i’r rheiny sydd wedi darllen am farwolaeth Dylan Thomas: y problemau dibyniaeth a’r pryderon iechyd, rôl y meddyg preifat esgeulus, a’r pwysau a roddwyd ar ddyn bregus i groesi Môr Iwerydd i berfformio er mwyn talu ei ddyledion.”

 

Symud i Abertawe, ‘ugly lovely town’ y bardd, chwe blynedd yn ôl, a sbardunodd ddiddordeb Kate Crockett yng ngwaith Dylan Thomas.

 

“Fe wnes i ddechrau darllen llawer o’i waith bryd hynny,  a throi at y rhyddiaith nad oeddwn i mor gyfarwydd ag e. Doeddwn i ddim yn meddwl amdano fe fel awdur rhyddiaith i ddweud y gwir ac mae hynny yn un peth yr hoffwn i’r llyfr yma ei wneud, sef gwneud i bobl droi at ei straeon e yn arbennig achos dydyn nhw ddim mor adnabyddus. Mae yna gymaint o sôn am Under Milk Wood, eleni yn arbennig,  ac mae yna gymaint yn cael ei wneud am ei farddoniaeth e. Dwi eisiau i bobl gofio amdano fe fel awdur rhyddiaith hefyd.”

 

Mae’r awdur yn rhoi cryn sylw i deulu Dylan - ewythr ei dad, Gwilym Marles oedd yn ffigwr amlwg yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chwaraeodd ran flaenllaw yn hanes gwleidyddol a chrefyddol y cyfnod.

 

Mae ‘Mwy Na Bardd’ yn atgoffa dyn bod llawer mwy i’w gofio na’ r meddwyn helbulus a oedd erbyn y diwedd yn cynhyrfu mwy o ddyfroedd gyda’i ymddygiad na’i ddawn.

 

“Yn y cofiannau niferus ohono, yn aml iawn mae’r ochr annifyr o’i gymeriad  yn dod mas,” meddai Kate. “Mae’n wir ei fod e’n begera, ei fod e weithie hyd yn oed yn dwyn oddi ar ei ffrindiau, doedd e ddim yn ŵr da nag yn dad arbennig o gariadus...

 

“Ond fe es i ati i ddarllen llawer o’r pethau roedd pobol oedd yn ei adnabod e wedi dweud a beth oedd gan y bobol oedd wedi gweithio ‘da fe i’w ddweud, ac yn sydyn rwyt ti yn gweld yr ochor arall iddo fe, y dyn arbennig oedd yn cael effaith anhygoel ar bobol, yn gwneud iddyn nhw deimlo yn ‘special’ ac roedd e hefyd yn cymryd ei waith o ddifri.

 

“Er bod yr elfen clown yna, ti’n ffaelu gwadu hwnna, a ti’n ffaelu gwadu ei fod yn  gallu bod yn ddyn anodd, roedd e yn dal yn ddyn wnaeth greu argraff arbennig iawn ar bobol.

 

“Beth bynnag mae neb yn ddweud amdano fel, mae’n dweud amdano fe’i hunan. Oedd e yn ymwybodol iawn o’i ffaeleddau ac am ddyn a oedd mor hoff o’r ddynoliaeth, doedd e ddim bob amser mor hoff ohono’i hun.”

 

Mwy Na Bardd: Bywyd a Gwaith Dylan Thomas

 

gan Kate Crockett

 

Cyhoeddiadau Barddas

 

£8.95 E-lyfr £7.95

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch post@lleol.net