Edrych yn ôl ar Ddiwrnod y Llyfr

08/03/2019

Categori: Addysg, Hamdden, Llenyddiaeth, Newyddion

Mi roedd hi’n ddiwrnod y llyfr ddoe ble roedd pobl o bob oed yn dathlu’r llyfr yn rhyngwladol trwy rannu eu hoff nofelau, gyda phlant mewn ysgolion yn gwisgo yn ei hoff gymeriadau.

 Diwrnod y Llyfr yw’r elusen gofrestredig sy’n gyfrifol am ddathliad blynyddol mwya’r byd o safbwynt llyfrau plant, gan ddathlu manteision darllen er pleser, hyrwyddo’r hud sydd rhwng cloriau llyfrau, hyrwyddo grym y dychymyg a phwysleisio pwysigrwydd rhannu straeon. 

 

Codi llyfr

 

Felly beth am godi llyfr i’w ddarllen llyfr Cymraeg i’ch ysbrydoli a’ch diddanu. Mae yna gyfoeth o lyfrau a digon o ddewis ar gael yn y Gymraeg i’w mwynhau. 

 

Mae Lleol.cymru wedi dethol negeseuon ar Trydar yn clodfori’r llyfr a'i hoff lyfrau. Mwynhewch y darllen!