Edrych yn ôl ar Orymdaith Annibyniaeth Caernarfon
Categori: Addysg, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Gwleidyddiaeth, Hamdden, Iaith, Newyddion

Tyrrodd bron i ddeng mil o bobl i orymdaith Annibyniaeth yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn ac fe drodd y dref yn ddathliad lliwgar o wyn, coch a gwyrdd.
Dyma ddiwrnod hanesyddol ac arwyddocaol tu hwnt wrth i’r genedl edrych yn ôl eleni ar hanner can mlynedd ers Arwisgiad Tywysog Charles ym 1969 yng Nghastell Caernarfon. Daeth pobl o Gymru benbaladr i Gaernarfon i roi eu cefnogaeth dros annibyniaeth. Gwaeddodd y dorf ‘Annibyniaeth rwan’ ‘Annibyniaeth nawr’ gyda thân yn ei boliau a gwen ar ei hwynebau. O'r ifanc iawn i'r hen, symudodd yr orymdaith yn araf trwy’r dref gaerog, gan orffen yn y Maes i wrando ar areithiau brwdfrydig.
Mae Lleol.cymru wedi dethol rhai o'r negeseuon cofiadwy o’r diwrnod er mwyn crynhoi’r brwdfrydedd a’r lliw. Yng nghysgod cerflun o David Lloyd George ac islaw y man lle anerchodd Charles Windsor y dorf ym 1969, ai dyma’r Gymru fydd? Mwynhewch y darllen.