Effeithiau trychinebus i'w gweld yn barod ar drothwy Brexit

Wrth siarad yn ugeinfed brecwast ffermdy blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol, rhybuddiodd Llywydd yr FUW, Glyn Roberts, bod yr effeithiau trychinebus o adael yr Undeb Ewropeaidd, yr undeb tollau a'r farchnad sengl ar Fawrth 29 yn cael eu gweld yn barod.

Dywedodd Mr Roberts wrth Aelodau'r Cynulliad: "Bydd yr effaith i’w weld fwyfwy dros yr wythnosau nesaf: Bydd cytundebau'n cael eu colli, bydd prisiau'n cael eu heffeithio a bydd busnesau Cymru'n dioddef."

 

Hefyd, tynnodd Mr Roberts sylw at y dryswch a'r ansicrwydd yn y sector bwyd ynglŷn â newidiadau posibl a fydd yn cael eu gweld yma mewn ychydig llai na deng wythnos.

 

"Mae'r bwyd heddiw yn gynnyrch sydd wedi cael ei stampio gyda marciau adnabod hirgrwn yr UE yr ydym i gyd yn gyfarwydd â nhw.

 

"Gyda dim ond wythnosau i fynd cyn Brexit, nid yw ein deunaw lladd-dy Cymreig, na chynhyrchwyr eraill, yn gwybod pa stamp bydd angen ei roi ar eu cynnyrch, er mwyn iddo fod yn gyfreithlon yma neu rywle arall mewn ychydig wythnosau.

 

"Nid yw allforwyr sy’n pacio ac anfon cynhyrchion nawr yn gwybod a fydd y tystysgrifau iechyd ac allforio sy'n cyd-fynd â'r llwythi hynny yn gyfreithlon pan fydd yn cyrraedd ochr draw i’r byd mewn ychydig wythnosau," dywedodd Mr Roberts.

 

Rhybuddiodd Mr Roberts nad oes gan y cwmnïau sy'n dibynnu ar gadwyni cyflenwi'r UE unrhyw brofiad o ddelio â'r tystysgrifau iechyd ac allforio cymhleth sydd eu hangen ar gyfer gwledydd y trydydd byd - a dyna beth fydd y DU - er mwyn mewnforio i’r UE, a dim ond wythnosau i hyfforddi a dod yn gyfarwydd â rheolau sy'n ymwneud â channoedd o wahanol gyrchfannau allforio.

 

"Nid ydym yn gwybod pa gyfraddau tariff a godir ar fewnforion o wledydd eraill ar ôl mis Mawrth, gan na fydd y tariffau drafft yn cael eu cyhoeddi tan ddiwedd mis Chwefror ac mae angen eu cymeradwyo gan y senedd - felly mae'n rhaid cytuno ar gytundebau gyda mewnforwyr heb unrhyw wybodaeth o'r costau ychwanegol sy'n debygol o gael eu codi mewn porthladdoedd.

 

"Fel y dywedodd gweinidog amaethyddiaeth yr Alban, Fergus Ewing, mewn llythyr yr wythnos diwethaf i Michael Gove, mae gosod tariffau yn rhy isel, yn rhoi’r rhwydd hynt i fwyd rhad a gynhyrchir i wahanol safonau gyrraedd yma gan achosi niwed sylweddol i'n ffermwyr a'n diwydiant bwyd, a hefyd yn peryglu unrhyw drafodaethau masnach yn y dyfodol."

 

Rhybuddiodd Mr Roberts fod y goblygiadau i ddiwydiant defaid Cymru yn ddifrifol iawn. "Mae’r un rhwystrau’n berthnasol i’r ŵyn sy’n cael eu geni nawr a dros y misoedd nesaf, a’r cynnyrch Cymreig arall sy’n mynd i farchnadoedd yr UE ac ymhellach: Nid yw'r cwsmeriaid hanfodol hynny sy'n dymuno archebu cig oen o Gymru yn gwybod pa dariffau neu rwystrau fydd yn berthnasol o fewn deg wythnos.

 

"Mae ein cystadleuwyr eisoes yn manteisio i'r eithaf, trwy gymryd  cadwyni cyflenwi y mae cwmnïau’r DU wedi datblygu ers degawdau.”

 

Tynnu Erthygl 50 yn ôl 

 

Dywedodd Mr Roberts mai am y rhesymau hyn mae FUW ddim yn galw am oedi Erthygl 50, gan y byddai hyn yn debygol o weld ni yn ôl yn yr un anghytundeb llwyr sy’n bodoli heddiw mewn ychydig fisoedd o amser, ond yn hytrach i dynnu Erthygl 50 yn ôl yn gyfan gwbl - cam na fyddai’n gofyn am drafodaeth gyda 27 UE, ac yn cymryd rheolaeth lwyr o’n trafodaethau Brexit.

 

Ychwanegodd hefyd y dylid cynyddu’r pwysau am gynllunio wrth gefn ar gyfer Brexit caled, a galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ochr yn ochr â Llywodraethau eraill y DU i sicrhau y gellir cymryd camau ar fyr rybudd i amddiffyn ein ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd rhag y math o drychineb a welwyd yn ystod achosion o glefyd y Traed a'r Genau.