Enlli Parri yn cipio Ysgoloriaeth Yr Urdd Bryn Terfel 2014

12/10/2014

Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion

Enlli Parri, Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2014

Nos Sul, Hydref 12, 2014 fe gipiodd y ddawnswraig Enlli Parri o Gaerdydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2014 mewn noson wefreiddiol a gynhaliwyd yn Neuadd Fawr, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth. Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth, gwerth £4,000 i Enlli yn y noson oedd yn fyw ar S4C ac yn benllanw ar weithgareddau’r Eisteddfod eleni.

 

Daeth Enlli, sydd yn wreiddiol o Gaerdydd ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Plasmawr i’r brig wedi ei pherfformiad gwefreiddiol o flaen y pump beirniad - Cefin Roberts, Eirlys Britton, Eirian Owen, Dafydd Huw a Gwyn L. Jones. Roedd rhaglen Enlli yn cynnwys dawns draddodiadol Gymreig a dawns gyfoes wreiddiol. Fel rhan o weithgareddau paratoi ar gyfer yr Ysgoloriaeth cafodd ddosbarth meistr gan Cerian Phillips, sydd ei hun wedi cystadlu am yr Ysgoloriaeth yn y gorffennol.

 

Mae Enlli bellach yn byw yn Llundain a newydd gychwyn cwrs BMus yn y Guildhall yn Llundain.

 

Meddai Enlli, “Ges i gymaint o sioc pan wnaethon nhw gyhoeddi fy enw i – o’n i ffili credu’r peth! Dwi wedi bod yn paratoi ar gyfer yr Ysgoloriaeth ers peth amser, a hoffwn ddiolch i Gapel Minnie Street am gael defnyddio eu festri er mwyn cael digon o ofod i ymarfer!

 

“Rydw i am ddefnyddio yr arian i ddatblygu fy sgiliau fel cerddor gan fy mod newydd gychwyn cwrs yn Llundain yn astudio’r ffliwt. Byddaf yn parhau i ddawnsio, ond mae hynny yn bennaf fel pleser!”

 

Yn ôl Cefin Roberts, un o’r beirniaid, “Mi oeddem ni fel panel yn hapus iawn gyda’r chwech berfformiodd heno, ac roedd y safon yn uchel iawn. Mi fu cryn drafod, ac roedd yn agos iawn, ond roedd pawb yn gytûn yn y diwedd mai Enlli oedd yn haeddu ennill.

 

“Rhoddodd perfformiad arbennig iawn gan gyfathrebu yn wych gyda’r gynulleidfa o ystyried ei bod mor ifanc. Roedd i weld wedi ymlacio wrth berfformio ac yn mwynhau ei hun. Ei chryfder mwyaf oedd fod ganddi amryw o sgiliau ond yn gallu cyrraedd a chyffwrdd pawb yn y gynulleidfa i’r sedd gefn un.”

 

Ychwanegodd Aled Siôn Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, “Cawsommnoson wych yng Nghanolfan y Celfyddydau nos Sul, ac mae’r safon a welwyd yn brawf o’r hyn a welwn yn flynyddol ar lwyfan cenedlaethol yr Urdd. Rwyf yn hyderus y bydd yr ysgoloriaeth hon yn rhoi hwb werthfawr i yrfa berfformio Enlli ac edrychaf ymlaen at glywed beth fydd ei hanes yn y dyfodol.”

 

Llun gan BBC Cymru Wales

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net