Fideo - Cyfweliad gyda Sian Summers am y sioe Y Coblynnod a’r Cryddion

16/12/2011

Categori: Celfyddydau, Newyddion

Fideo - Cyfweliad gyda Sian Summers am y sioe Y Coblynnod a’r Cryddion



Mae Sherman Cymru’n dod yn ôl i’r Stiwdio dros y  Nadolig gyda’u cynhyrchiad olaf cyn iddyn nhw ail agor eu drysau
ddechrau 2012 ar ôl 18 mis o waith ailddatblygu.



Mae Nadolig yr hen wneuthurwyr esgidiau yn mynd i fod yn hir ac yn oer.  ‘Does dim bara yn y tŷ, dim pren i’w roi ar y tân a dim arian i brynu  anrhegion. Ond mae dau o’r corachod bychain yn cael syniad - ac mae un  darn o ledr ar ôl i wneud un pâr arall o esgidiau. Gyda phinsiad o hud  arbennig mae’r rhod ar droi - er gwell. Mae dawn Sherman Cymru o adrodd straeon hudolus, ynghyd â cherddoriaeth fyw a phypedau, yn dod â’r cymeriadau annwyl yma’n fyw at dymor yr ŵyl.