Gêm dyngedfennol i Gymru heno yn Nulyn

24/03/2017

Categori: Chwaraeon, Newyddion

Fe fydd Cymru yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn heno mewn gêm dyngedfennol, gyda dros 10,000 o gefnogwyr yn amcangyfrif wedi heidio dros y môr Celtaidd i ddathlu’r achlysur.

Mae chwaraewr Lerpwl, Ben Woodburn wedi cael ei gynnwys yng ngharfan y tîm cyntaf am y tro cyntaf, ar ôl perfformiadau addawol i Gymru ar lefel ganolradd. Roedd Lloegr wedi dangos diddordeb ynddo yn ddiweddar ond siawns, fe fydd yn cael ei gap cyntaf heno. 

 

Mae amddiffynnwr Milton Keynes Dons, Joe Walsh yn chwaraewr arall sydd eto i ennill cap i Gymru ac wedi’i gynnwys yng ngharfan Coleman. Mae cyn ymosodwr Aberystwyth, Tom Bradshaw, yn dychwelyd i’r garfan ar ôl ennill ei gap cyntaf yn erbyn Wcráin ym mis Mawrth 2016. 

 

Ar hyn o bryd mae Cymru yn drydydd yn grŵp rhagbrofol D, ddau bwynt y tu ôl i Serbia sy’n ail a phedwar pwynt tu ôl Gweriniaeth Iwerddon yn y safle cyntaf. 

 

Dim ond ychydig dros 3,000 o docynnau a gafodd Cymru ar gyfer hon ond mae un peth yn sicr, fe fydd yna fwrlwm ar strydoedd Dulyn heno, gyda 10,000 o Gymry yn y ddinas. 

 

Anafiadau

 

Mae’r Gwyddelod wedi dioddef nifer o anafiadau yn arwain at y gem, gyda’r rheolwr, Martin O'Neill wedi colli dau yng nghanol yr amddifyn, Shane Duffy and Ciaran Clark, gyda’r chwaraewyr canol cae, Harry Arter and Wes Hoolahan hefydd wedi anafu, tra fod Robbie Brady wedi’i wahardd. Nid oes gan Gymru unrhyw anafiadau, gyda Bale wedi gwella ar ol llaw driniaeth ar ei bigwrn cyn y Nadolig. 

 

Mae’r pwysau ar Gymru i sicrhau buddugoliaeth yma er mwyn cynnal ei gobeithion o orffen ar frig y grŵp, er mwyn hawlio lle awtomatig yng Ngwpan y Byd yn Rwsia. Ar ol y gêm hon, fe fydd Cymru yn wynebu her arall anodd oddi cartref yn Serbia.

 

Os nad ydych yn mynd i Ddulyn, fe fydd cyfle i chi wylio'r cyfan yn fyw ar S4C yn dechrau am 7.15pm.   

 

Pob lwc i Gymru!