Gem fawr yn wynebu tîm pêl-droed Cymru

27/03/2015

Categori: Chwaraeon, Hamdden, Newyddion

Gareth Bale i Gymru

Wrth i bencampwriaeth y chwe gwlad ddod i ben, mae Lleol.Cymru yn edrych ymlaen at ddigwyddiad pwysig iawn yng nghalendr chwaraeon Cymru, wrth i dîm pel-droed Cymru wynebu Israel nos yfory gyda Chris Coleman a’i dîm yn anelu i gipio’r tri phwynt a symud i frig Grwp B.

 

Mae’r gem yn argoeli'n hynod bwysig i obeithion y tîm i lwyddo yn ei grwp rhagbrofol ar gyfer rowndiau tefynol pencampwriaeth Ewrop, fydd yn cael ei gynnal yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.  

 

Ar ol dechreuad addawol i’r grwp, mae’r garfan yn teithio i Haifa yn hyderus fod yna gyfle i ennill yno, gyda Galactico Real Madrid, Gareth Bale, chwaraewr canol cae Arsenal, Aaron Ramsey a chwaraewr Lerpwl, Joe Allen yn barod i danio. Mae Israel hefyd wedi cael dechrau da, gyda'r ddau dîm yn brwydro i fod yn gyntaf yn y grwp. 

 

Yn ddiweddar, bu asgellwr Real Madrid,  Gareth Bale dan y lach, gan rai o gefnogwyr Bernebeu wrth iddynt ei wawdio am beidio pasio’r bel mewn gemau. Ond fe darodd y Cymro  yn ôl yr wythnos diwethaf gyda dwy gol yn erbyn Levante. Bydd gan Bale gyfle y penwythnos hwn, i anghofio am ei broblemau ym mhrifddinas Sbaen a chanolbwyntio ar gipio gôl neu ddwy yn erbyn yr Israeliaid. 

 

Bydd Cymru gyfan yn gobeithio’r gorau mai buddugoliaeth fydd yn ein disgwyl nos fory.  Dyma flas ar rai o goliau Gareth Bale i Gymru.