Gemau Sbaen Sgorio i'w cael ar y We

24/08/2015

Categori: Chwaraeon, Hamdden, Newyddion

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd goreuon gemau pêl-droed Sbaen yn cael eu cynnwys yn Sgorio bob nos Lun  – ac y bydd hefyd ar gael i'w gwylio ar-lein ar y we ar s4c.cymru ac iPlayer.

 

Bydd Sgorio ar nos Lun yn cynnwys y chwarae o gemau La Liga, prif gynghrair Sbaen. Bydd Sgorio bob nos Lun am 6.30 hefyd ar gael ar wasanaeth ar alw’r sianel ar wefan s4c.cymru ac iPlayer am saith diwrnod.

 

Bydd posib i wylwyr S4C weld uchafbwyntiau o’r Calderon, Nou Camp a’r Bernebeu a gweld perfformiadau Gareth Bale i Real Madrid ar y We. 

 

Bydd y gemau sy'n cael sylw gan Sgorio bob prynhawn Sadwrn – yn cynnwys Uwch Gynghrair Cymru Dafabet, Cwpan Cymru JD a rownd derfynol Cwpan Word - yn cael eu llwytho ar wasanaeth ar-lein rhyngwladol S4C yn dilyn y chwiban ola', fydd yn caniatáu i gefnogwyr ar draws y byd hefyd wylio'r gêm yn llawn, ar alw, am 35 diwrnod.

 

La Liga

 

Meddai Sue Butler, Golygydd Chwaraeon S4C; "Rydym yn falch iawn o weld dechrau tymor cyffrous arall o bêl-droed ar S4C gyda chyfres newydd o Sgorio yn ei slot newydd ar brynhawn Sadwrn a rhaglen nos Lun nawr yn mynd i gynnwys La Liga. Mae La Liga yn cael ei hystyried fel cynghrair gryfa’ Ewrop, felly mae sicrhau cael cynnwys uchafbwyntiau’r gemau yn newyddion cyffrous i’n gwylwyr.”

 

Gyda phêl-droed yng Nghymru mewn cyfnod tra llwyddiannus, mae S4C yng nghanol y bwrlwm gyda rhaglenni uchafbwyntiau o gemau Cymru yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016 hefyd i'w gweld ar y sianel.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru