Gêm bwysicaf i Gymru ers 1958

01/07/2016

Categori: Chwaraeon, Hamdden, Newyddion

Dyma’r gêm bwysicaf i Gymru ers 1958, yn ôl rheolwr Cymru, Chris Coleman, gyda’r Dreigiaid yn wynebu Gwlad Belg heno, yn Lille.

Fe ofynnwyd i seren Cymru, Gareth Bale, am yr hyn sy’n ei ysgogi i chwarae, a’i ateb oedd y ddraig goch ar ei frest. 

 

Gwlad Belg yw’r ffefrynnau i ennill heno heb os, ond mae Cymru yn dawel hyderus y gallent ennill eu lle yn y rownd gyn derfynol ym Mhencampwriaeth Ewrop yn erbyn Portiwgal. Mae gan Gymru record dda yn erbyn Gwlad Belg yn y ddwy flynedd diwethaf, gan eu curo unwaith, gyda dwy gêm gyfartal.  

 

Yr ydym bellach wedi cyrraedd tir anghyfarwydd i’r rhan fwyaf ohonom ac mae’r antur a ddechreuodd ym Mordeaux bellach wedi troi yn chwedl. O Garnifal Bordeaux  a nefoedd Toulouse  i siom Lens a buddugoliaeth ym Mharis, dyma her fwyaf eto i ddewrion y crysau cochion. 

 

Yr unig wlad yn weddill

 

Ers i Loegr golli yn erbyn Gwlad yr Ia nos Lun, Cymru yw’r unig wlad o wledydd Prydain sydd yn y gystadleuaeth.  Mae’r byd yn gwylio’r gystadleuaeth, ac fe fydd Cymru yn rhan anatod o’r dathliadau. 

 

Pob lwc enfawr i dîm Cymru ar ran staff Lleol.cymru, gyda’n gilydd yn gryfach, gorau chwarae cyd chwarae!