Graddedigion yn mynd yn ôl i'r ysgol

Mae Cwmni adeiladu tai Redrow wedi gofyn am gymorth graddedigion i roi ychydig o hwb i ysgol gynradd leol yng Nghaerdydd.
Mae Ysgol Coed y Gof wedi'i lleoli'n agos at ddatblygiad Cae St Fagans Redrow ym Mhlasdŵr.Fel rhan o Raglen Graddedigion Redrow, bydd tîm o'r graddedigion diweddaraf yn treulio amser yn Ysgol Coed y Gof – ysgol gynradd Gymraeg ym Mhentre-baen – yn helpu i adnewyddu ei hardaloedd dysgu awyr agored, sydd angen eu trwsio.
Gofynnwyd i'r graddedigion fynd ati i adnewyddu'r ardaloedd hyn ac ymgysylltu â'r plant ysgol gymaint â phosibl drwy gynnal amrywiaeth o weithdai yn ystod tymor yr haf gan gynnwys adeiladu 'Tŷ Lego', peintio brics ac addurno disgiau. Bydd y cyfan wedyn yn cael ei osod yn yr ardaloedd chwarae.
Yn ystod gwyliau'r haf, bydd y graddedigion yn treulio wythnos ar y safle yn gweithio ar bob un o'r pum parth yn eu cynlluniau ailddatblygu sy'n cynnwys sglodion rhisgl rwber newydd, waliau bwrdd du a thai chwarae, yn ogystal â chorneli llythrennedd, rhifedd a chwaraeon.
Parth pump fydd yn gweld y newid mwyaf – caiff ei drawsnewid yn ardd synhwyraidd newydd i'r disgyblion, gan gynnwys llwybr synhwyraidd, seddau pren, a gardd berlysiau.
Gweithdai
Wrth siarad am ymdrechion tîm Redrow, dywedodd athro Blwyddyn 2 Ysgol Gymraeg Coed y Gof Huw Darch: "Rydym yn gyffrous iawn am y gwaith sy'n cael ei gyflawni yn ein hysgol gan raddedigion Redrow. Bydd y gweithdai'n sicrhau bod pob plentyn yn yr ysgol yn cymryd rhan yn y prif brosiect o adnewyddu ein hardaloedd dysgu awyr agored ar gam cynnar.
"O'n cyfarfod cyntaf un, rydym yn teimlo bod yr ysgol wedi taro tant â holl staff Redrow. Maen nhw wedi deall ein hanghenion er mwyn cyflawni prosiect gwirioneddol gydweithredol a fydd o fudd i'n disgyblion am flynyddoedd i ddod.
"Credwn y bydd yr adnoddau newydd gwych hyn yn ein galluogi i ymateb yn uniongyrchol i ddogfen 'Dysgu Gweithredol a Thrwy Brofiad' Estyn. Bydd y gwaith yn sicrhau bod gan ein disgyblion yr ardaloedd dysgu awyr agored gorau posibl, gan eu helpu i ddod yn ddysgwyr gydol oes annibynnol a chreadigol."
Ychwanegodd un o raddedigion Redrow, Will Morgan: "Rydym i gyd yn gyffrous iawn am y prosiect hwn – mae Cae St Fagans yn ddatblygiad sy'n ystyriol iawn o deuluoedd ac roedd helpu ysgol leol mewn angen yn ymddangos fel y prosiect perffaith i gymryd rhan ynddo.
"Mae'r plant wedi bod yn wych ac wedi chwarae eu rhan yn barod yn dilyn y gweithdy cyntaf – rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weld y cynlluniau hyn yn datblygu ac at roi'r dechrau gorau i'r disgyblion y tymor nesaf yn eu hamgylcheddau dysgu awyr agored newydd sbon."
Ychwanegodd Beverley Wookey, Cyfarwyddwr Gwerthu ar gyfer Tai Redrow De Cymru, 'Roeddem yn falch iawn o allu helpu'r ysgol mewn ffordd mor ymarferol yn ogystal â rhoi cyfle i raddedigion Redrow o bob rhan o'r DU helpu i wella amgylchedd yr ysgol a'r profiad dysgu."