Grŵp o wrthdystwyr yn meddiannu swyddfeydd Cyngor Caerdydd

20/01/2020

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae grŵp o wrthdystwyr wedi meddiannu swyddfeydd Cyngor Caerdydd heddiw er mwyn pwyso am ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ydatblygiad ym Mhlasdwr yn y brifddinas.

Ym mis Medi 2018, dywedodd Arweinydd y Cyngor Huw Thomas "i fod yn glir- bydd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o ddatblygiad Plasdŵr."Fodd bynnag, penderfynodd cabinet Cyngor Caerdydd i ymgynghori ar gynnigi sefydlu ysgol gynradd ddwyieithog newydd gyda hanner y disgyblion mewnffrwd Saesneg. Derbyniodd y Cyngor ddeiseb gydag 876 llofnod arni hi'ngalw am ysgol benodedig Gymraeg, gyda dim ond 15 o'r 180 o ymatebion i'whymgynghoriad yn ffafrio agor ffrwd Saesneg ar y safle.

 

Mae datblygiad Plasdŵr yng ngogledd-orllewin y ddinas yn golygu adeiladuhyd at saith mil o dai dros y saith mlynedd nesaf. Yn yr ardaloedd hyn -Creigiau, Sain Fagan a Phentyrch - y mae rhai o'r canrannau uchaf osiaradwyr Cymraeg yn y brifddinas, gyda bron i chwarter y boblogaeth ynsiarad Cymraeg.

 

Meddai Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith:"O dan gynlluniau'r cyngor, mae hanner y disgyblion yn mynd i gael eutrin yn eilradd, a ddim yn mynd i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.Dim ond drwy ysgolion penodedig Cymraeg y daw disgyblion yn rhugl ynGymraeg. Ac, mae gan y cyngor gyfle euraidd, gydag ysgol newydd sbon, isefydlu un. Fel arall, drwy beidio defnyddio'r cyfalaf sy'n dod gyda'rdatblygiad tai anferth yma i agor ysgol cyfrwng Cymraeg benodedig,byddai'r cyngor yn rhwystro twf y Gymraeg yn yr ardal a dyheadau'r rhanhelaeth o bobl yr ardal i adfer y Gymraeg a gweld ein pobl ifanc yn dodyn rhugl yn yr iaith. Dylai pob ysgol sy'n cael ei hagor o'r newydd fodyn un gyfrwng Gymraeg, dyna'r newid meddylfryd sydd ei hangen, ynenwedig mewn ardaloedd fel Caerdydd lle mae'r boblogaeth yn tyfu.

 

Cadw at ei air

 

"Rydyn ni'n galw ar Arweinydd y Cyngor i gadw at ei air i agor ysgol cyfrwng Cymraeg, nid ysgol ddwyieithog. Wedi'r cwbl, dyna sydd ei hangenos yw'r Cyngor o ddifrif am sicrhau ein bod ni'n cyrraedd miliwn osiaradwyr. Mae'n rhaid i Gaerdydd sicrhau cynnydd dramatig a chyflym ynnifer y disgyblion sy'n mynd i ysgol Gymraeg er mwyn sicrhau y caiff ytarged ei gyrraedd. Byddai ailymweld ag arbrawf methiedig addysgddwyieithog sydd wedi ei brofi'n ffordd wael o drwytho disgyblion yn yGymraeg yn gam annigonol i ateb y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn yddinas."

 

Mae disgwyl i gabinet y cyngor benderfynu ar gyfrwng iaith yr ysgolgyntaf sy'n rhan o ddatblygiad Plasdŵr ddydd Iau yma