Canlyniadau Chwilio yn categori Addysg

Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 1235 cofnodion | Tudalen 124 o 124

Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hysbyse...

19/03/2013
Categori: Addysg, Ar-lein, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Hyfforddiant / Cyrsiau, Iaith, Newyddion

Dros y misoedd nesaf fe fydd Hysbysfwrdd Swyddi Cymru, rhan o wefan Lleol.net, yn hysbysebu’r holl swyddi darlithio y mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn eu noddi ar draws prifysgolion Cymru.
 
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y bydd 21 o swyddi newydd yn cael eu cyllido drwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn 2013/14.
 
Dywedodd Dylan Phillips, Uwch Reolwr Academaidd:
 
‘Rydym yn falch iawn o gael cydweithio gyda Gwefan Lleol.net, fel rhan o’n hymgyrch recriwtio.  Byddwn yn hysbysebu ein holl swyddi ar y wefan, rydym wedi defnyddio’r wefan yn y gorffennol ac mae’r ymateb i’n hysbysebion ...

darllenwch mwy

Diwrnod y Llyfr 2013

27/02/2013
Categori: Addysg, Celfyddydau, Newyddion

Diwrnod y Llyfr 2013


Diwrnod y Llyfr 2013

Cynhelir Diwrnod y Llyfr 2013 ddydd Iau , 07 Mawrth.
 
Cefnogaeth Enwogion
 
Aled Sion Davies, enillydd dwy fedal yn y Gêmau Paralympaidd, a’r nofwraig Olympaidd Georgia Davies, yw wynebau newydd Diwrnod y Llyfr 2013 yng Nghymru.
 
Yn dilyn eu llwyddiant anhygoel yn eu gwahanol gampau yn 2012, mae’r ddau wedi cytuno i roi cyhoeddusrwydd i’r ymgyrch ddarllen flynyddol bwysig hon yng Nghymru.
 
Bydd dros 10,000 o bosteri Diwrnod y Llyfr yn dangos delweddau o’r athletwyr yn cael eu dosbarthu trwy Gymru benbaladr yn y cyfnod yn arwain at Ddiwrnod y Llyfr ar 7 Mawrth.
 

 

 

 

 

Mwy yma

Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol Mudiad...

22/01/2013
Categori: Addysg, Hyfforddiant / Cyrsiau

Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol Mudiad Meithrin


Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol Mudiad Meithrin

Dyma gyfle i chi ennill cymhwyster Diploma Lefel 3 CACHE mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant mewn lleoliad blynyddoedd cynnar.
 
Bydd pawb sy’n cael eu derbyn ar y cwrs yma yn cael grant hyfforddi tra’n dysgu.  Gwahoddir siaradwyr Cymraeg a dysgwyr da i ymgeisio am un o’r 200 o lefydd ar y cynllun hyfforddi yma a leolir mewn cylchoedd meithrin, meithrinfeydd dydd ac ysgolion cynraddledled Cymru.
 
Mae’r cynllun hyfforddi cenedlaethol yma yn cael ei gynnal gan Mudiad Meithrin, trwy ei is-gwmni Cam wrth Gam, o 1 Ebrill 2013 hyd 31 Mawrth 2014.
 
Am becyn gwybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch gyda Cam Wrth Gam ar y manylion cysylltu uchod.
&n ...

darllenwch mwy

Dathlu gyda Rhywbeth i Bawb yr hydref...

11/09/2012
Categori: Addysg, Ar-lein, Arian a Busnes, Bwyd, Celfyddydau, Chwaraeon, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion

Mae mis Tachwedd 2012 yn garreg filltir bwysig yn hanes darlledu yn yr iaith Gymraeg wrth i S4C ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed.Yn flaenllaw yn yr amserlen yr hydref hwn mae rhaglenni i ddathlu'r achlysur. Byddwn yn edrych yn ôl ar hanes y Sianel ac yn hel atgofion am hoff raglenni'r degawdau.Un o’r rhaglenni yw drama ddogfen am benderfyniad yr arweinydd gwleidyddol a’r cenedlaetholwr Gwynfor Evans i fygwth ymprydio hyd farwolaeth yn yr ymgyrch dros sianel Gymraeg.Mae Gwynfor, a ysgrifennwyd gan yr Archdderwydd T James Jones, yn ail-greu blwyddyn dyngedfennol ym mywyd Gwynfor Evans, gyda'r actor Aneirin Hughes yn portreadu Gwynfor.Ym mis Medi 1979, fe wnaeth Llywodraeth Ge ...

darllenwch mwy

Safon Uwch: Llai yn llwyddo i ennill ...

16/08/2012
Categori: Addysg, Newyddion

Cafodd canlyniadau Safon Uwch eu cyhoeddi ddydd Iau. Adroddiad Gwenfair Griffith.Mae canran y disgyblion gafodd y graddau uchaf yn yr arholiadau Safon Uwch wedi gostwng yng Nghymru, tra bod yna gynnydd bach yn y rhai enillodd graddau A*-E.Wrth i ddisgyblion Cymru gael eu canlyniadau Safon Uwch ddydd Iau fe lwyddodd 97.6% o ddisgyblion i ennill graddau A*-E o'i gymharu â 97.2% y llynedd.Ond gostwng wnaeth canran y disgyblion enillodd A* o 6.3% yn 2011 i 6.0% ac mae nifer y rhai enillodd A neu A* wedi gostwng o 23.9% i 23.6% eleni, y canran isaf er 2006.Roedd mwy o ddisgyblion wedi astudio'r Bagloriaeth Gymraeg gyda 8,259 o ddisgyblion yn derbyn gradd A o'i gymharu â 6,948 yn 2011, ...

darllenwch mwy