Canlyniadau Chwilio yn categori Adolygiadau Llyfrau

Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 12 cofnodion | Tudalen 2 o 2

Lansiad rhifyn #38 o gylchgrawn Tu Ch...

18/03/2013
Categori: Adolygiadau Cerddoriaeth, Adolygiadau Llyfrau, Ar-lein, Barn, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion

Lansiad rhifyn #38 o gylchgrawn Tu Chwith ‘digidol’


Lansiad rhifyn #38 o gylchgrawn Tu Chwith

Lansiad #38   31.03.13
 
Tafarn Penlan Fawr, Pwllheli
 
i ddechrau oddeutu 4:00yh yn ystod gig Bob Delyn a’r Ebillion
 
Yn dilyn llwyddiant lansiad ‘Gwreiddiau’ #36 yn Nhafarn Penlan y llynedd, rydym yn falch iawn o gael dychwelyd eto eleni ar gyfer lansiad #38, ‘digidol’.
 
Mae croeso cynnes iawn i bawb ymuno â chriw tu chwith ar gyfer lansiad #38 yn awyrgylch ffantastig Penlan Fawr! Bydd cerddoriaeth fyw gan Bob Delyn a’r Ebillion a chyfle i brynu copi o’r cylchgrawn, cyn iddo gyrraedd y siopa’!
 
Edrychwn ymlaen am eich cwmni?
 

Adolygiad llyfr 'Dim'

19/09/2012
Categori: Adolygiadau Llyfrau

Mae Gwyn ac Owain yn dilyn llwybrau gwahanol yn hynny o beth: Owain yn cydymffurfio â threfn Dyn a thrwy hynny'n dod i fyny yn erbyn grym Natur: Gwyn yn gwrthryfela yn erbyn trefn Dyn ac yn dysgu cydymffurfio â threfn Natur.
 
Mae Owain yn cael ei ddinistrio am gydymffurfio â threfn sydd yn ei hanfod yn ddinistriol. Mae Gwyn yn dysgu ei le. Rydym ni i gyd yn Ddim sut bynnag y byddwn ni'n byw, ond mae mwy nac un math o Ddim.
 
Mae'r stori'n seiliedig ar ddigwyddiadau gwir y cyfnod rhwng yr 1960au a'r 1990au, gan gynnwys sefyllfa Gogledd Iwerddon a gwasanaethau cudd Prydain y cyfnod hwnnw.
 

 
Gobeithiai'r nofel godi cwestiynau ym meddyliau pobl ...

darllenwch mwy