Canlyniadau Chwilio yn categori Amaethyddiaeth

Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 271 cofnodion | Tudalen 27 o 28

Labelu Cymraeg yn denu’r prynwyr

23/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Ar-lein, Arian a Busnes, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith

Labelu Cymraeg yn denu’r prynwyr, medd ymchwiliad Sioe Frenhinol
 
Mae ymchwil a ddadorchuddwyd yn y Sioe Frenhinol eleni wedi datgelu fod labelu dwyieithog Cymraeg a Saesneg ar gynnyrch yn medru profi i fod yn hw bi fusnes, a denu cynulleidfa ehangach. Wrth gyhoeddi’r newyddion, bu i Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, nodi y byddai’r ymchwil “galonogol” hyn yn cynnig mwy o hyder i gynhyrchwyr Cymreig. “Rydym wedi canfod fod defnyddio y Iaith Gymraeg o amgylch brand yn helpu greu hunaniaeth a phroffil unigryw. Wrth weld enw Cymraeg ar gynnyrch rydych yn gwybod ei fod yn dod o Gymru, gan gael ei gynhyrchu yn lleol, gan wasanaethu’r gymdeithas&rd ...

darllenwch mwy

Haf sy’n llawn newid ar gyfer materio...

22/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Haf sy’n llawn newid ar gyfer materion gwledig


Jill Evans ASE

 gan Jill Evans ASE
 
Wrth i ni fynychu’r Sioe yr wythnos hon, bydd nifer o bobl yn myfyrio ar haf sy’n llawn newid ar gyfer materion gwledig yng Nghymru.
 
Gydag ymadawiad annisgwyl y Gweinidog Adnoddau Naturiol yn ddiweddar, a’r modd yr ail-ddosbarthwyd swyddi gweinidogol, peth anodd fydd hi unwaith eto, i ragweld pwy fydd yn gyfrifol am benderfyniadau amaethyddol a gweldig pwysig – yn enwedig heb fod gyda ni weinidog penodol yn eistedd wrth y bwrdd mawr.
 
Mae hi felly’n siom na fydd y Dirprwy Weinidog felly yn rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor yn y Sioe Fawr yr wythnos hon, er fy mod yn sicr y bydd yn amlinellu ei syniadau cyn hi ...

darllenwch mwy

Dechreuad prysur i sioe a hanner

22/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Mae diwrnod cyntaf prysur wedi gosod y cywair ar gyfer yr hyn y rhagwelir y bydd hi’n Sioe Frenhinol a hanner.
 
Gyda’r ymweliad cyntaf erioed gan Brif Weinidog yn y swydd, dechreuodd y diwrnod trwy groesawu urddasogion a phobl bwysig iawn i faes y sioe o bob cwr i’r wlad. Ochr yn ochr â Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, ymunwyd â David Cameron gan Elizabeth Truss, Ysgrifennydd Gwladol, Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Edwina Hart, John Griffiths, Rebecca Evans a llawer o gymeriadau gwleidyddol eraill.
 
Gyda diolch y dywedodd Cyfarwyddwr Anrhydeddus y sioe, Mr Harry Fetherstonhaugh: “Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr fod y Prif ...

darllenwch mwy

David Cameron yn ymweld â Sioe Frenhi...

22/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Fe wnaeth y Gwir Anrhydeddus David Cameron AS hedfan i mewn i Lanelwedd ddoe (dydd Llun 21 Gorffennaf) i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru am y bore.
 
Fel y Prif Weinidog Prydeinig cyntaf yn y swydd i ymweld â’r sioe, cafodd Mr Cameron ei groesawu gan Gyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe, Mr Harry Fetherstonhaugh a phwysigion eraill cyn cael ei dywys ar daith o amgylch maes y sioe.
 
Galwodd Mr Cameron yn gyntaf yn adeilad Llywodraeth Cymru i gwrdd â’r Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru ac yna ymunwyd ag ef gan Stephen Crabb AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, cyn mynd yn eu blaenau i ymweld ag atyniadau’r sioe a stopio am sgwrs gyda&rs ...

darllenwch mwy

Sarhad y Gweinidogion newydd i’r Sioe...

16/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Gwleidyddiaeth

Sarhad y Gweinidogion newydd i’r Sioe Frenhinol yn gwylltio Plaid Cymru


Gweinidogion yn gwrthod y cyfle cyntaf i graffu

Gweinidogion yn gwrthod y cyfle cyntaf i graffu
 
Mae Plaid Cymru wedi disgrifio’r ffaith fod tri o Weinidogion Llywodraeth Cymru wedi gwrthod dod i sesiwn graffu gydag Aelodau Cynulliad yn y Sioe Frenhinol yr wythnos nesaf fel sarhad ar y Gymru wledig.
 
Ers llawer blwyddyn, mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi cynnal sesiwn graffu gyhoeddus gyda’r Gweinidog Amaeth perthnasol yn y Sioe. Ond mewn llythyr at y pwyllgor, mae’r Gweinidog Adnoddau Naturiol newydd a Gweinidog yr Economi, ynghyd â’r Dirprwy Weinidog Amaeth newydd oll wedi gwrthod dod oherwydd “ymrwymiadau eraill”.
 
Dywedodd y Gweinidog Adnoddau Natur ...

darllenwch mwy

WiFi am ddim yn Sioe Frenhinol Cymru

15/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion

Am y tro cyntaf, bydd ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru yn gallu cyrchu llecynnau chwilboeth WiFi am ddim o amgylch maes y sioe eleni.
 
Diolch i’r gwaith caled a’r trafodaethau rhwng Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Cyflymu Cymru, BT Openreach a Llywodraeth Cymru, mae maes y sioe’n gallu manteisio ar gyflymderau rhyngrwyd cyflym iawn ar ôl gosod band eang ffeibr cyflym.
 
Gyda chefnogaeth Dragon WiFi a’n noddwyr, .cymru and .wales, bydd chwe man o amgylch maes y sioe ble bydd mynychwyr y sioe yn gallu cyrchu’r rhyngrwyd am ddim. Gobeithir y bydd y llecynnau chwilboeth hyn yn mynd ychydig o’r ffordd i helpu i lacio tagfeydd y ...

darllenwch mwy

Ap Sioe Frenhinol Cymru wedi’i uwchra...

14/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Ar-lein, Iaith, Newyddion

Ap Sioe Frenhinol Cymru wedi’i uwchraddio


Ap Sioe Frenhinol Cymru

Mapiau, atyniadau, cystadlaethau a chanlyniadau… mae fersiwn eleni o Ap Sioe Frenhinol Cymru ar gael yn awr.
 
Ar gefn llwyddiant arbennig ap newydd Sioe Frenhinol Cymru y llynedd, mae’r gymdeithas ar y cyd ag S4C a Moilin Cyf, wedi cynhyrchu fersiwn uwchraddedig newydd ar gyfer sioe eleni i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr holl gyffro o faes y sioe.
 
Bydd ymwelwyr â’r sioe yn gallu uwchraddio ap y llynedd, neu lawrlwytho fersiwn eleni cyn y sioe am ddim.
 
Mae’r erfyn dwyieithog defnyddiol yma’n cynnwys map rhyngweithiol o faes y sioe sy’n ei gwneud hi’n hawdd lleoli’r holl atyniadau yn y sioe, amserlen lawn o&rsq ...

darllenwch mwy

Sioe Frenhinol Cymru YN FYW

11/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Newyddion

Peidiwch â chynhyrfu… i’r rheini ohonoch sy’n ddigon anffodus o beidio â gallu ymweld â’r hyn y cyfeirir ati fel sioe amaethyddol fwyaf a mwyaf clodfawr Ewrop, mae modd bellach ichi ddilyn y gweithgaredd o faes y sioe yn fyw, wrth iddo ddigwydd.
 
Mewn cydweithrediad arall sy’n torri tir newydd rhwng Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac S4C, bydd cefnogwyr y sioe ym mhobman yn gallu gwylio rhaglenni byw o’r sioe ar-lein.
 
Ynghyd â’r sylw arferol ar y teledu, bydd gwefan S4C (www.s4c.co.uk/ysioe) yn dangos ffrydio byw o raglen Y Sioe hefyd, ynghyd â sylw ychwanegol o’r prif gylch a’r cysta ...

darllenwch mwy

Sioeau Amaethyddol: Beth yw'r effaith?

11/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Newyddion

Sioeau Amaethyddol: Beth yw'r effaith?


Myfyriwr Ôl-raddedig Prifysgol Aberystwyth, Greg Thomas

Myfyriwr Ôl-raddedig Prifysgol Aberystwyth, Greg Thomas, a fydd yn lansio ei astudiaeth “Sioeau Amaethyddol: Gyrru ac Arddangos Newid yng Nghefn Gwlad” yn y Sioe Amaethyddol Frenhinol Gymregi eleni.
 
Bydd Greg Thomas, ymchwilydd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cynnal astudiaeth ymchwil i Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni er mwyn gweld yr effaith a gaiff ar gefn gwlad y Gymru gyfoes.
 
Bydd prosiect ymchwil PhD cyffrous “Sioeau Amaethyddol: Gyrru ac Arddangos Newid yng Nghefn Gwlad” yn cael ei lansio yn Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru 2014. Dynoda hyn ddechrau prosiect ymchwil dwy flynedd i mewn i rôl Sioe Amaethyddol F ...

darllenwch mwy

Pentref Ieuenctid 2014 Rownd y Gornel

08/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Newyddion

Pentref Ieuenctid 2014 Rownd y Gornel


Pentref Ieuenctid CFfI Cymru

Mae’r Pentref Ieuenctid, noddi’r gan Brifysgol Harper Adams, yn ddigwyddiad sy'n cymrid rhan yn ystod yr wythnos y Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, a bydd yn gweld mwy na 15,000 o bobl ifanc yn mynychu’r safle adloniant a gwersylla.
 
Yn cychwyn y digwyddiad ar y Nos Sul (20 Gorffennaf) bydd Fushanti, sef band o Geredigion sy’n canu amrywiaeth o ganeuon o’r hen ffefrynnau i’r caneuon sydd yn y siartiau heddiw. Perfformiwyd diwethaf yn y Pentref Ieuenctid yn 2011. Bydd y canwr-gyfansoddwr Tich hefyd yn perfformio ar y nos Sul ynghyd â DJ Radio Sara Cox.
 
Bydd y nos Llun (21 Gorffennaf) yn adlais o’r 90au gyda grŵp pop 5ive yn cym ...

darllenwch mwy