Canlyniadau Chwilio yn categori Amaethyddiaeth

Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 300 cofnodion | Tudalen 30 o 30

Haf sy’n llawn newid ar gyfer materio...

22/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Haf sy’n llawn newid ar gyfer materion gwledig


Jill Evans ASE

 gan Jill Evans ASE
 
Wrth i ni fynychu’r Sioe yr wythnos hon, bydd nifer o bobl yn myfyrio ar haf sy’n llawn newid ar gyfer materion gwledig yng Nghymru.
 
Gydag ymadawiad annisgwyl y Gweinidog Adnoddau Naturiol yn ddiweddar, a’r modd yr ail-ddosbarthwyd swyddi gweinidogol, peth anodd fydd hi unwaith eto, i ragweld pwy fydd yn gyfrifol am benderfyniadau amaethyddol a gweldig pwysig – yn enwedig heb fod gyda ni weinidog penodol yn eistedd wrth y bwrdd mawr.
 
Mae hi felly’n siom na fydd y Dirprwy Weinidog felly yn rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor yn y Sioe Fawr yr wythnos hon, er fy mod yn sicr y bydd yn amlinellu ei syniadau cyn hi ...

darllenwch mwy

Dechreuad prysur i sioe a hanner

22/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Mae diwrnod cyntaf prysur wedi gosod y cywair ar gyfer yr hyn y rhagwelir y bydd hi’n Sioe Frenhinol a hanner.
 
Gyda’r ymweliad cyntaf erioed gan Brif Weinidog yn y swydd, dechreuodd y diwrnod trwy groesawu urddasogion a phobl bwysig iawn i faes y sioe o bob cwr i’r wlad. Ochr yn ochr â Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, ymunwyd â David Cameron gan Elizabeth Truss, Ysgrifennydd Gwladol, Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Edwina Hart, John Griffiths, Rebecca Evans a llawer o gymeriadau gwleidyddol eraill.
 
Gyda diolch y dywedodd Cyfarwyddwr Anrhydeddus y sioe, Mr Harry Fetherstonhaugh: “Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr fod y Prif ...

darllenwch mwy

David Cameron yn ymweld â Sioe Frenhi...

22/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Fe wnaeth y Gwir Anrhydeddus David Cameron AS hedfan i mewn i Lanelwedd ddoe (dydd Llun 21 Gorffennaf) i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru am y bore.
 
Fel y Prif Weinidog Prydeinig cyntaf yn y swydd i ymweld â’r sioe, cafodd Mr Cameron ei groesawu gan Gyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe, Mr Harry Fetherstonhaugh a phwysigion eraill cyn cael ei dywys ar daith o amgylch maes y sioe.
 
Galwodd Mr Cameron yn gyntaf yn adeilad Llywodraeth Cymru i gwrdd â’r Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru ac yna ymunwyd ag ef gan Stephen Crabb AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, cyn mynd yn eu blaenau i ymweld ag atyniadau’r sioe a stopio am sgwrs gyda&rs ...

darllenwch mwy

Sarhad y Gweinidogion newydd i’r Sioe...

16/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Gwleidyddiaeth

Sarhad y Gweinidogion newydd i’r Sioe Frenhinol yn gwylltio Plaid Cymru


Gweinidogion yn gwrthod y cyfle cyntaf i graffu

Gweinidogion yn gwrthod y cyfle cyntaf i graffu
 
Mae Plaid Cymru wedi disgrifio’r ffaith fod tri o Weinidogion Llywodraeth Cymru wedi gwrthod dod i sesiwn graffu gydag Aelodau Cynulliad yn y Sioe Frenhinol yr wythnos nesaf fel sarhad ar y Gymru wledig.
 
Ers llawer blwyddyn, mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi cynnal sesiwn graffu gyhoeddus gyda’r Gweinidog Amaeth perthnasol yn y Sioe. Ond mewn llythyr at y pwyllgor, mae’r Gweinidog Adnoddau Naturiol newydd a Gweinidog yr Economi, ynghyd â’r Dirprwy Weinidog Amaeth newydd oll wedi gwrthod dod oherwydd “ymrwymiadau eraill”.
 
Dywedodd y Gweinidog Adnoddau Natur ...

darllenwch mwy

WiFi am ddim yn Sioe Frenhinol Cymru

15/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion

Am y tro cyntaf, bydd ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru yn gallu cyrchu llecynnau chwilboeth WiFi am ddim o amgylch maes y sioe eleni.
 
Diolch i’r gwaith caled a’r trafodaethau rhwng Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Cyflymu Cymru, BT Openreach a Llywodraeth Cymru, mae maes y sioe’n gallu manteisio ar gyflymderau rhyngrwyd cyflym iawn ar ôl gosod band eang ffeibr cyflym.
 
Gyda chefnogaeth Dragon WiFi a’n noddwyr, .cymru and .wales, bydd chwe man o amgylch maes y sioe ble bydd mynychwyr y sioe yn gallu cyrchu’r rhyngrwyd am ddim. Gobeithir y bydd y llecynnau chwilboeth hyn yn mynd ychydig o’r ffordd i helpu i lacio tagfeydd y ...

darllenwch mwy

Ap Sioe Frenhinol Cymru wedi’i uwchra...

14/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Ar-lein, Iaith, Newyddion

Ap Sioe Frenhinol Cymru wedi’i uwchraddio


Ap Sioe Frenhinol Cymru

Mapiau, atyniadau, cystadlaethau a chanlyniadau… mae fersiwn eleni o Ap Sioe Frenhinol Cymru ar gael yn awr.
 
Ar gefn llwyddiant arbennig ap newydd Sioe Frenhinol Cymru y llynedd, mae’r gymdeithas ar y cyd ag S4C a Moilin Cyf, wedi cynhyrchu fersiwn uwchraddedig newydd ar gyfer sioe eleni i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr holl gyffro o faes y sioe.
 
Bydd ymwelwyr â’r sioe yn gallu uwchraddio ap y llynedd, neu lawrlwytho fersiwn eleni cyn y sioe am ddim.
 
Mae’r erfyn dwyieithog defnyddiol yma’n cynnwys map rhyngweithiol o faes y sioe sy’n ei gwneud hi’n hawdd lleoli’r holl atyniadau yn y sioe, amserlen lawn o&rsq ...

darllenwch mwy

Sioe Frenhinol Cymru YN FYW

11/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Newyddion

Peidiwch â chynhyrfu… i’r rheini ohonoch sy’n ddigon anffodus o beidio â gallu ymweld â’r hyn y cyfeirir ati fel sioe amaethyddol fwyaf a mwyaf clodfawr Ewrop, mae modd bellach ichi ddilyn y gweithgaredd o faes y sioe yn fyw, wrth iddo ddigwydd.
 
Mewn cydweithrediad arall sy’n torri tir newydd rhwng Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac S4C, bydd cefnogwyr y sioe ym mhobman yn gallu gwylio rhaglenni byw o’r sioe ar-lein.
 
Ynghyd â’r sylw arferol ar y teledu, bydd gwefan S4C (www.s4c.co.uk/ysioe) yn dangos ffrydio byw o raglen Y Sioe hefyd, ynghyd â sylw ychwanegol o’r prif gylch a’r cysta ...

darllenwch mwy

Sioeau Amaethyddol: Beth yw'r effaith?

11/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Newyddion

Sioeau Amaethyddol: Beth yw'r effaith?


Myfyriwr Ôl-raddedig Prifysgol Aberystwyth, Greg Thomas

Myfyriwr Ôl-raddedig Prifysgol Aberystwyth, Greg Thomas, a fydd yn lansio ei astudiaeth “Sioeau Amaethyddol: Gyrru ac Arddangos Newid yng Nghefn Gwlad” yn y Sioe Amaethyddol Frenhinol Gymregi eleni.
 
Bydd Greg Thomas, ymchwilydd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cynnal astudiaeth ymchwil i Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni er mwyn gweld yr effaith a gaiff ar gefn gwlad y Gymru gyfoes.
 
Bydd prosiect ymchwil PhD cyffrous “Sioeau Amaethyddol: Gyrru ac Arddangos Newid yng Nghefn Gwlad” yn cael ei lansio yn Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru 2014. Dynoda hyn ddechrau prosiect ymchwil dwy flynedd i mewn i rôl Sioe Amaethyddol F ...

darllenwch mwy

Pentref Ieuenctid 2014 Rownd y Gornel

08/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Newyddion

Pentref Ieuenctid 2014 Rownd y Gornel


Pentref Ieuenctid CFfI Cymru

Mae’r Pentref Ieuenctid, noddi’r gan Brifysgol Harper Adams, yn ddigwyddiad sy'n cymrid rhan yn ystod yr wythnos y Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, a bydd yn gweld mwy na 15,000 o bobl ifanc yn mynychu’r safle adloniant a gwersylla.
 
Yn cychwyn y digwyddiad ar y Nos Sul (20 Gorffennaf) bydd Fushanti, sef band o Geredigion sy’n canu amrywiaeth o ganeuon o’r hen ffefrynnau i’r caneuon sydd yn y siartiau heddiw. Perfformiwyd diwethaf yn y Pentref Ieuenctid yn 2011. Bydd y canwr-gyfansoddwr Tich hefyd yn perfformio ar y nos Sul ynghyd â DJ Radio Sara Cox.
 
Bydd y nos Llun (21 Gorffennaf) yn adlais o’r 90au gyda grŵp pop 5ive yn cym ...

darllenwch mwy

Rhaid i’r RhDG gadw’r addewidion ar g...

08/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Arian a Busnes, Bwyd, Newyddion

Rhaid i’r RhDG gadw’r addewidion ar gyllido ffermydd


Cadw’r addewidion ar gyllido ffermydd

Rhaid i’r Gweinidog gefnogi ei eiriau ag arian wedi cymryd cyllid oddi ar ffermwyr.
 
Cyn datganiad Llywodraeth Cymru ar Raglen Datblygu Gwledig newydd, mae Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gymunedau Cynaliadwy, Ynni a Bwyd, Llyr Gruffydd wedi galw ar i’r Llywodraeth gadw at eu gair a sicrhau bod arian yn cael ei gyfeirio at ffermwyr Cymru sydd mewn trafferthion.
 
Ym mis Rhagfyr, penderfynodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol drosglwyddo’r uchafswm o 15% o gyllid ymaith oddi wrth ffermwyr ac i Piler 2. Cyn hyn, dywedodd y Gweinidog y byddai’r arian yn cael ei gyfeirio’n ôl at ffermwyr trwy ddyraniadau Piler 2.
 
Mae AC Plaid Cymru wedi ...

darllenwch mwy