Canlyniadau Chwilio yn categori Ar-lein

Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 165 cofnodion | Tudalen 11 o 17

lleol.net yn trawsnewid i lleol.cymru

02/09/2014
Categori: Ar-lein, Iaith

Newyddion cyffrous gan lleol.net - rydym yn falch i gyhoeddi o ganol mis Medi ymlaen fyddwn yn newid i lleol.cymru. Cyfnod cyffrous i Gymru wrth lansio .cymru a .wales, a chyfle i ni fel cenedl i gynyddu cydnabyddiaeth dramor, helpu i ddenu buddsoddiad, hybu allforio a thyfu’r economi Cymreig.
 
Fel gwefan Cymraeg sydd yn hyrwyddo gwybodaeth leol a cenedlaethol roedd yn datblygiad hanfodol i ni gefnogi .cymru ac ail brandio fel lleol.cymru.
 
Lansiwyd lleol.net nol yn fis Mawrth 2010 ac ers hynny mae’r wefan wedi tyfu ac erbyn heddiw wedi hysbysebu dros 2500 o swyddi ar ran 350 o gyflogwyr ar draws Cymru.
 
Mae’r wefan hefyd yn cynnal fforwm er mwyn ann ...

darllenwch mwy

Llythyr agored - defnydd o gyfryngau ...

20/08/2014
Categori: Ar-lein, Iaith, Newyddion

Mae Menter Iaith Abertawe wedi ysgrifennu llythyr agored i fynegi pryderon difrifol am wasanaeth Cymraeg Cyngor Dinas a Sir Abertawe (CDSA) ar y cyfryngau cymdeithasol. 
 
Mae’r llythyr yn dweud ‘Mae hi wedi dod i’r amlwg dros yr ychydig fisoedd diwethaf nad ydy darpariaeth Cymraeg CDSA ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddigonol o gwbl’. 
 
Mae’r llythyr yn mynd ymlaen i ddweud bod y ddarpariaeth yn groes i Gynllun Iaith Cymraeg CDSA a  fod sawl person yn anhapus gyda’r ddarpariaeth ac yn ofni wrth ddilyn cyfrifon Cymraeg CDSA maent yn colli allan ar wybodaeth bwysig neu o ddiddordeb iddynt. 
 
Ydych chi yn un ...

darllenwch mwy

Mwy o gymunedau i elwa o fand llydan ...

30/07/2014
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Bydd mwy o gymunedau Cymreig yn derbyn band llydan ffeibr uwchgyflym erbyn haf 2015 fel rhan o raglen Cyflymu Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a BT heddiw.
 
Mae sir Fynwy, sir Gaerfyrddin a sir Benfro ymhlith yr ardaloedd fydd yn elwa ar ôl cyhoeddiad heddiw, sydd hefyd yn cynnwys dechrau gwaith mewn ardaloedd 35 cyfnewidfa yn gynharach na’r disgwyl.
 
Bydd trigolion a busnesau 66 ardal newydd ar draws 10 awdurdod lleol yn gallu cael band llydan ffeibr erbyn Mehefin 2015.
 
Ar ôl cwblhau’r gwaith yn yr ardaloedd a gadarnhawyd heddiw, bydd dros 500,000 cartref  a busnes ar hyd a lled y wlad yn gallu cael y dechnoleg newydd yn ystod haf 20 ...

darllenwch mwy

Labelu Cymraeg yn denu’r prynwyr

23/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Ar-lein, Arian a Busnes, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith

Labelu Cymraeg yn denu’r prynwyr, medd ymchwiliad Sioe Frenhinol
 
Mae ymchwil a ddadorchuddwyd yn y Sioe Frenhinol eleni wedi datgelu fod labelu dwyieithog Cymraeg a Saesneg ar gynnyrch yn medru profi i fod yn hw bi fusnes, a denu cynulleidfa ehangach. Wrth gyhoeddi’r newyddion, bu i Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, nodi y byddai’r ymchwil “galonogol” hyn yn cynnig mwy o hyder i gynhyrchwyr Cymreig. “Rydym wedi canfod fod defnyddio y Iaith Gymraeg o amgylch brand yn helpu greu hunaniaeth a phroffil unigryw. Wrth weld enw Cymraeg ar gynnyrch rydych yn gwybod ei fod yn dod o Gymru, gan gael ei gynhyrchu yn lleol, gan wasanaethu’r gymdeithas&rd ...

darllenwch mwy

Defnyddio data'r Gofrestrfa Tir i edr...

18/07/2014
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Newyddion

Prisiau Tai Cymru
 
Yn ôl y newyddion, mae prisiau tai yn prysur gynyddu, a’r farchnad yn tyfu i’r un lefel a welwyd yn ystod y “boom” mawr yn 2007 (Linc1) (Linc2).
 
Wrth gwrs, dyw’r farchnad tai yng Nghymru ddim yn dilyn yr un tuedd a’r farchnad yn Lloegr (ac yn bendant ddim fel Llundain). Fel rheol, mae’n cymryd amser i unrhyw gynnydd dreiglo drwodd i’r farchnad yma. I gael gwell syniad o beth sydd yn mynd ymlaen yma, es i wefan y Gofrestrfa Tir (Land Registry) a lawrlwytho’r data gwerthiant tai o 2007 hyd heddiw. Dwi wedi dadansoddi’r data isod.
 
Prisiau Tai Heddiw
 
Mae’r data craid ...

darllenwch mwy

Cadeirydd Awdurdod S4C: Hyblygrwydd y...

17/07/2014
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Iaith, Newyddion

Cadeirydd Awdurdod S4C: Hyblygrwydd yn angenrheidiol er mwyn cwrdd â heriau’r dyfodol


Huw Jones - S4C

Mae natur y gwasanaethau a gynigir gan S4C wedi newid i gyd-fynd ag amgylchiadau ariannol y sianel. Dyna un o gasgliadau Cadeirydd Awdurdod y sianel yn Adroddiad Blynyddol S4C 2013/14.
 
Yn ôl Huw Jones, mae asesiad o berfformiad S4C yn dangos bod y gwasanaeth wedi addasu'n sylweddol er mwyn ymdopi â'r lleihad yn y gyllideb. Yn bennaf, mae'r newid wedi dod ar ffurf datblygiadau sy'n creu rhagor o gyfleoedd i wylio'r cynnwys ar draws y DU; cost yr awr y cynnwys yn lleihad; ac adnoddau i alluogi i gynulleidfaoedd di-gymraeg i wylio.
 
Mae'r newyddion o ran cyrhaeddiad yn gymysg, gyda chyrhaeddiad wythnosol y sianel yn llai, yn bennaf wrth i allu'r sianel i gystadlu am ...

darllenwch mwy

Cwmni yn edrych am siaradwyr Cymraeg

14/07/2014
Categori: Ar-lein, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith

Mae cwmni newydd yn chwilio am siaradwyr Cymraeg i brofi ap y mae wedi ei ddatblygu. Mae Cwmni Digidol a sefydlwyd gan y cyn-weinidog Addysg Leighton Andrews a chyn Gyfarwyddwr Technegol Box UK, Stuart Arthur, wedi datblygu ap o’r enw Cwtsh (neu Cwtch yn Saesneg) y bwriedir ei gyhoeddi yn hwyrach eleni. Bydd yr ap ar gael yn Gymraeg a Saesneg mewn fersiynau iOS ac Android.
 
Mae’r cwmni ar hyn o bryd yn trafod lawnsio’r ap gydag S4C.
 
Dywed Leighton Andrew,’Rydym yn gobeithio y bydd hwn yn ap arloesol ar gyfer yr iaith Gymraeg. Rydym wedi buddsoddi yn breifat yn y datblygu a chynllunio er mwyn sicrhau profiad esmwyth ar gyfer y defnyddydd’.
  ...

darllenwch mwy

Ap Sioe Frenhinol Cymru wedi’i uwchra...

14/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Ar-lein, Iaith, Newyddion

Ap Sioe Frenhinol Cymru wedi’i uwchraddio


Ap Sioe Frenhinol Cymru

Mapiau, atyniadau, cystadlaethau a chanlyniadau… mae fersiwn eleni o Ap Sioe Frenhinol Cymru ar gael yn awr.
 
Ar gefn llwyddiant arbennig ap newydd Sioe Frenhinol Cymru y llynedd, mae’r gymdeithas ar y cyd ag S4C a Moilin Cyf, wedi cynhyrchu fersiwn uwchraddedig newydd ar gyfer sioe eleni i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr holl gyffro o faes y sioe.
 
Bydd ymwelwyr â’r sioe yn gallu uwchraddio ap y llynedd, neu lawrlwytho fersiwn eleni cyn y sioe am ddim.
 
Mae’r erfyn dwyieithog defnyddiol yma’n cynnwys map rhyngweithiol o faes y sioe sy’n ei gwneud hi’n hawdd lleoli’r holl atyniadau yn y sioe, amserlen lawn o&rsq ...

darllenwch mwy

Darganfyddwch sut y gall y Gymraeg fo...

08/07/2014
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Newyddion

Darganfyddwch sut y gall y Gymraeg fod o fantais i’ch busnes


Defnyddio’r Gymraeg mewn busnes

Dydd Mercher 2 Gorffennaf 2014 – dechrau am 6.00pm, Plaza Suite, gwesty’r Park Plaza, Caerdydd, CF10 3AL
 
Fe’ch gwahoddir i ymuno â Phrif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC i ddarganfod sut y gall y Gymraeg fod o fantais i’ch busnes.
Dewch i wrando ar brofiadau pob math o bobl busnes a pham eu bod yn defnyddio’r Gymraeg:

mae’n hawdd cynnwys ychydig o Gymraeg yn eich busnes
nid yw 2 iaith yn ddwbl y gwaith
gallai defnyddio’r Gymraeg fod o fudd i’ch busnes

 
 
 
Mae digwyddiadau pellach wedi’u trefnu:


Dydd Iau 24 Gorffennaf 2014 – Llanelli
Dydd Mercher 30 Gorffennaf 2014 & ...

darllenwch mwy

Prif Weinidog Cymru y cyntaf i record...

08/07/2014
Categori: Ar-lein, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion

Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, oedd y cyntaf i ymateb i apêl newydd gan Brifysgol Bangor am wirfoddolwyr i recordio’u llais er mwyn creu adnodd Adnabod Lleferydd Cymraeg newydd.
 
Mae systemau Adnabod Lleferydd yn bwysig ar gyfer cyfathrebu ar lafar gyda chyfrifiaduron, systemau ffôn, setiau teledu, a phob math o gyfarpar electronig arall. Er mwyn creu’r dechnoleg, mae angen recordio rhai cannoedd o bobl wahanol yn darllen testunau pwrpasol. Gorau oll os ceir amrywiaeth o leisiau, hen, ifanc, dynion, merched, acenion de, gogledd a dysgwyr. Defnyddir y recordiadau ar gyfer hyfforddi peiriannau adnabod lleferydd a fydd yn deall llais unrhyw un yn siarad Cymra ...

darllenwch mwy