Canlyniadau Chwilio yn categori Ar-lein

Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 110 cofnodion | Tudalen 6 o 11

Cadeirydd Awdurdod S4C: Hyblygrwydd y...

17/07/2014
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Iaith, Newyddion

Cadeirydd Awdurdod S4C: Hyblygrwydd yn angenrheidiol er mwyn cwrdd â heriau’r dyfodol


Huw Jones - S4C

Mae natur y gwasanaethau a gynigir gan S4C wedi newid i gyd-fynd ag amgylchiadau ariannol y sianel. Dyna un o gasgliadau Cadeirydd Awdurdod y sianel yn Adroddiad Blynyddol S4C 2013/14.
 
Yn ôl Huw Jones, mae asesiad o berfformiad S4C yn dangos bod y gwasanaeth wedi addasu'n sylweddol er mwyn ymdopi â'r lleihad yn y gyllideb. Yn bennaf, mae'r newid wedi dod ar ffurf datblygiadau sy'n creu rhagor o gyfleoedd i wylio'r cynnwys ar draws y DU; cost yr awr y cynnwys yn lleihad; ac adnoddau i alluogi i gynulleidfaoedd di-gymraeg i wylio.
 
Mae'r newyddion o ran cyrhaeddiad yn gymysg, gyda chyrhaeddiad wythnosol y sianel yn llai, yn bennaf wrth i allu'r sianel i gystadlu am ...

darllenwch mwy

Cwmni yn edrych am siaradwyr Cymraeg

14/07/2014
Categori: Ar-lein, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith

Mae cwmni newydd yn chwilio am siaradwyr Cymraeg i brofi ap y mae wedi ei ddatblygu. Mae Cwmni Digidol a sefydlwyd gan y cyn-weinidog Addysg Leighton Andrews a chyn Gyfarwyddwr Technegol Box UK, Stuart Arthur, wedi datblygu ap o’r enw Cwtsh (neu Cwtch yn Saesneg) y bwriedir ei gyhoeddi yn hwyrach eleni. Bydd yr ap ar gael yn Gymraeg a Saesneg mewn fersiynau iOS ac Android.
 
Mae’r cwmni ar hyn o bryd yn trafod lawnsio’r ap gydag S4C.
 
Dywed Leighton Andrew,’Rydym yn gobeithio y bydd hwn yn ap arloesol ar gyfer yr iaith Gymraeg. Rydym wedi buddsoddi yn breifat yn y datblygu a chynllunio er mwyn sicrhau profiad esmwyth ar gyfer y defnyddydd’.
  ...

darllenwch mwy

Ap Sioe Frenhinol Cymru wedi’i uwchra...

14/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Ar-lein, Iaith, Newyddion

Ap Sioe Frenhinol Cymru wedi’i uwchraddio


Ap Sioe Frenhinol Cymru

Mapiau, atyniadau, cystadlaethau a chanlyniadau… mae fersiwn eleni o Ap Sioe Frenhinol Cymru ar gael yn awr.
 
Ar gefn llwyddiant arbennig ap newydd Sioe Frenhinol Cymru y llynedd, mae’r gymdeithas ar y cyd ag S4C a Moilin Cyf, wedi cynhyrchu fersiwn uwchraddedig newydd ar gyfer sioe eleni i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr holl gyffro o faes y sioe.
 
Bydd ymwelwyr â’r sioe yn gallu uwchraddio ap y llynedd, neu lawrlwytho fersiwn eleni cyn y sioe am ddim.
 
Mae’r erfyn dwyieithog defnyddiol yma’n cynnwys map rhyngweithiol o faes y sioe sy’n ei gwneud hi’n hawdd lleoli’r holl atyniadau yn y sioe, amserlen lawn o&rsq ...

darllenwch mwy

Darganfyddwch sut y gall y Gymraeg fo...

08/07/2014
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Newyddion

Darganfyddwch sut y gall y Gymraeg fod o fantais i’ch busnes


Defnyddio’r Gymraeg mewn busnes

Dydd Mercher 2 Gorffennaf 2014 – dechrau am 6.00pm, Plaza Suite, gwesty’r Park Plaza, Caerdydd, CF10 3AL
 
Fe’ch gwahoddir i ymuno â Phrif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC i ddarganfod sut y gall y Gymraeg fod o fantais i’ch busnes.
Dewch i wrando ar brofiadau pob math o bobl busnes a pham eu bod yn defnyddio’r Gymraeg:

mae’n hawdd cynnwys ychydig o Gymraeg yn eich busnes
nid yw 2 iaith yn ddwbl y gwaith
gallai defnyddio’r Gymraeg fod o fudd i’ch busnes

 
 
 
Mae digwyddiadau pellach wedi’u trefnu:


Dydd Iau 24 Gorffennaf 2014 – Llanelli
Dydd Mercher 30 Gorffennaf 2014 & ...

darllenwch mwy

Prif Weinidog Cymru y cyntaf i record...

08/07/2014
Categori: Ar-lein, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion

Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, oedd y cyntaf i ymateb i apêl newydd gan Brifysgol Bangor am wirfoddolwyr i recordio’u llais er mwyn creu adnodd Adnabod Lleferydd Cymraeg newydd.
 
Mae systemau Adnabod Lleferydd yn bwysig ar gyfer cyfathrebu ar lafar gyda chyfrifiaduron, systemau ffôn, setiau teledu, a phob math o gyfarpar electronig arall. Er mwyn creu’r dechnoleg, mae angen recordio rhai cannoedd o bobl wahanol yn darllen testunau pwrpasol. Gorau oll os ceir amrywiaeth o leisiau, hen, ifanc, dynion, merched, acenion de, gogledd a dysgwyr. Defnyddir y recordiadau ar gyfer hyfforddi peiriannau adnabod lleferydd a fydd yn deall llais unrhyw un yn siarad Cymra ...

darllenwch mwy

Sut i gyrraedd Eisteddfod Genedlaetho...

07/07/2014
Categori: Addysg, Adolygiadau Llyfrau, Ar-lein, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Cystadlaethau, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Gwleidyddiaeth, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion

Sut i gyrraedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru


Sut i gyrraedd y Maes

Bydd meysydd parcio dros dro yr Eisteddfod yn cael eu lleoli i'r Dwyrain a'r Gorllewin o Lanelli gyda system bws gwennol yn weithredol.
 
Bydd y meysydd parcio yn cael eu nodi'n glir gydag arwyddion melyn ar bob prif gyffordd yn yr ardal.  Mae parcio a'r bws wennol i'r Maes yn rhad ac am ddim.
 
Bydd y gwasanaeth bws gwennol yn gweithredu ar bob adeg y mae'r Eisteddfod yn agored i’r cyhoedd ac yn eich cludo chi o'r meysydd parcio i Ganolfan Ymwelwyr yr Eisteddfod. Os gwelwch yn dda, cofiwch ganiatáu digon o amser ar gyfer y rhan hon o'ch taith a allai fod hyd at hanner awr.
 
Bydd y bysiau yn dychwelyd yn rheolaidd i'r meysydd parcio drwy gydol y dydd ...

darllenwch mwy

Menter y we yn cynnig mwy o gysur i g...

07/07/2014
Categori: Ar-lein, Iechyd

Menter y we yn cynnig mwy o gysur i gleifion


Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Matt Makin


Bydd menter newydd yn cael ei lansio'r wythnos hon i ganiatau cleifion i bori'r rhyngrwyd pan fyddant yn nhri phrif ysbyty Gogledd Cymru.
 
Bydd systemau Wifi cyhoeddus sydd wedi cael eu gosod yn Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd yn mynd yn fyw ddydd Gwener, 11 Gorffennaf gan roi mynediad i gleifion a'r cyhoedd at y we unwaith y byddant yn dod i mewn i brif adeiladau'r ysbytai.
 
Mae'n rhad ac am ddim cyrchu'r system a bydd pob ffôn deallus a thabled gyfrifiadurol â gallu wifi yn synhwyro'r system wrth ddod i mewn i'r adeilad, ac yn cyfeirio'r defnyddiwr at dudalen lanio arbennig i ryngrwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
 
...

darllenwch mwy

Dyfodol Teledu Cymraeg

28/05/2014
Categori: Ar-lein, Eisteddfod yr Urdd, Iaith

Dyfodol Teledu Cymraeg


Trafod Dyfodol Teledu Cymraeg

Ar 27 Mai, bu Prif Weithredwr S4C, Ian Jones a Chadeirydd yr Awdurdod, Huw Jones, yn trafod Dyfodol Teledu Cymraeg mewn araith ar faes Eisteddfod yr Urdd 2014, gan gyhoeddi dogfen ymgynghorol ar y pwnc ar yr un pryd.
 
Fe fydd y blynyddoedd nesaf yn rhai allweddol i ddyfodol S4C. Mae heriau mawr yn wynebu'r sianel yn nhermau datblygiadau technolegol, arferion gwylio, creu cynnwys beiddgar, a sicrhau arian digonol i'r gwasanaeth.
 
Fe fydd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, a Phrif Weithredwr y sianel, Ian Jones, yn trafod y materion hyn ar faes Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014.
 
Lawr lwythwch y ddogfen ymgynghorol - Dyfodol Teledu Cymraeg

Mae’r gymuned ar-lein yng Nghymru’n e...

21/05/2014
Categori: Ar-lein, Iaith

Mae’r gymuned ar-lein yng Nghymru’n ehangu


Rheolir enwau parth .cymru a .wales gan Nominet

Mae’r gymuned ar-lein yng Nghymru’n ehangu.  Rhowch wybod i bawb eich bod yn falch o fod yn rhan o’n cartref ar-lein gan gipio dotiau eich hun. 
 
Eleni bydd gan Gymru parthau lefel uchaf ei hun: .cymru a .wales. Dyma fydd 'ein cartref ar-lein' . Bydd yn caniatáu i sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb yng Nghymru i greu presenoldeb wirioneddol Gymreig ar-lein. Bydd y ddau enw parth newydd yn cael eu rheoli gan Nominet, cofrestrfa flaenllaw'r DU sydd yn bresennol yn gyfrifol am holl enwau parth .uk. Ymunwch â ni wrth i ni gymryd y cam nesaf tuag at chwyldro digidol, cyllidol a diwylliannol ar-lein. 
 
Yn 2014, bydd gan Gymru ei of ...

darllenwch mwy

40 mlwyddiant yr Uned fasnachol gynta...

15/05/2014
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Iaith, Newyddion

Ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Y Bala y mis hwn, bydd cwmni Cadwyn yn dathlu ei 40mlwyddiant. Sefydlwyd Cadwyn i hybu crefftau Cymreig, ac arddangosodd am y tro cyntaf ym Mai 1974 yn Eisteddfod yr Urdd Y Rhyl. Esboniodd Meinir Ffransis (Ysgrifennydd y cwmni), ac un o sylfaenwyr Cadwyn:
 
"Roedd y cwmni newydd gael ei sefydlu ac fe wnaethon ni gais hwyr i drefnydd yr Eisteddfod, Elvey MacDonald, am stondin ar y maes heb sylweddoli nad oedd yn arferiad gan yr Urdd ar y pryd i dderbyn stondinau masnachol. Derbyniwyd ein cais, a Cadwyn oedd y stondin fasnachol gyntaf erioed ar faes Eisteddfod yr Urdd".
 
Ers hynny, mae Cadwyn wedi arddangos ym mhob un o Eisteddfodau'r ...

darllenwch mwy