Canlyniadau Chwilio yn categori Celfyddydau

Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 874 cofnodion | Tudalen 88 o 88

Dyfodol Tu Chwith

24/11/2011
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Newyddion

"Rydym yn hynod siomedig i glywed nad yw’r Cyngor Llyfrau am gefnogi cylchgrawn Tu Chwith yn ariannol o hyn ymlaen. Dyma’r unig gyhoeddiad i bobl ifainc, gan bobl ifainc, a bydd yn ergyd fawr i’r rhai sydd am gyhoeddi am y tro cyntaf a meithrin hyder yn eu gwaith.  Mae’n ergyd i ni hefyd am i’r penderfyniad gael ei wneud cyn i ni, fel golygyddion newydd, gael cyfle i gyhoeddi ein cyfrol gyntaf.
 
Mae llawer iawn o bobl wedi gweithio’n wirfoddol, i gadw’r cylchgrawn yma ar ei draed gan fod cyfran helaeth y grant yn mynd tuag at gostau cynhyrchu.  Mae’n drueni bod y cylchgrawn, a gychwynnwyd o dan olygyddiaeth Dr Simon Brook ...

darllenwch mwy

S4C a’r BBC yn cytuno ar lywodraethia...

23/11/2011
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Mae Awdurdod S4C, Ymddiriedolaeth y BBC a'r Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) wedi dod i gytundeb ynglŷn â chyllideb, llywodraethiant ac atebolrwydd S4C tan 2017.
 
Bydd y trefniadau yn amddiffyn annibyniaeth olygyddol a rheoli S4C tra'n gwarchod atebolrwydd priodol i Ymddiriedolaeth y BBC dros arian o'r ffi drwydded fydd yn cael ei wario ar y gwasanaeth.
 
Mae'r cytundeb yn cloi'r trafodaethau rhwng S4C, Ymddiriedolaeth y BBC, a Llywodraeth y DU, wedi setliad ffi drwydded y BBC llynedd pan gytunwyd i sefydlu partneriaeth newydd a threfniadau cyllido i S4C. Mae'n dilyn y cyhoeddiad ddoe gan y BBC ynglŷn â lefel y ffi drwydded fydd yn cael ei ro ...

darllenwch mwy

Hanner Cant

23/11/2011
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Yn ystod y flwyddyn nesaf bydd Cymdeithas yr iaith yn trefnu nifer o ddigwyddiadau i nodi pen-blwydd y mudiad yn hanner cant ac i gydnabod pum degawd o ymgyrchu brwd o blaid y Gymraeg. Sefydlwyd y Gymdeithas ar y 4ydd Awst, 1962 ym Mhontarddulais. Roedd darlith Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, yn ysbrydoliaeth i sefydlu'r Gymdeithas.Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle arbennig i bobl o bob cwr o Gymru, a thu hwnt, i ddathlu hanes ein hymgyrchu dros yr iaith Gymraeg. Rydyn ni yn y Gymdeithas yn fudiad o bobl sydd yn dibynnu ar weithredoedd a brwdfrydedd unigolion a chymunedau dros y Gymraeg. Dyma ein cyfle i ddweud diolch iddyn nhw am eu hymroddiad ac hefyd ysbrydoli cenhedlaeth newydd a fydd yn ...

darllenwch mwy

Lansio gorsaf Radio’r Cymry yn y flwy...

17/11/2011
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Fe fydd gorsaf radio Gymraeg newydd ar y we yn cael ei lansio’n swyddogol ddydd Sul, 1 Ionawr y flwyddyn nesaf, meddai’r sylfaenydd wrth Lleol.net
 
Y bwriad yw cynnal “diwrnod llawn o ddarlledu byw ar Radio’r Cymry ddydd Sul,” meddai Huw Marshall cynhyrchydd teledu gafodd y syniad o greu’r orsaf radio newydd yn y Gymraeg ar y we.
 
“Dw i’m yn gwybod yn iawn beth fydd yn digwydd ar y diwrnod cyntaf. Mae’n dibynnu pwy fydd yn sobr ac yn effro . Ond, dw i’n gobeithio bydd y diwrnod cyntaf yn ddiwrnod llawn o ddarlledu byw, dyna’r gobaith. Darlledu byw drwy’r dydd,” meddai.
 
Fe ddywedodd mai rhan ...

darllenwch mwy